Croeso i Cyngor Tref Rhyl
Helo!
Croeso i’n gwefan.
Yma fe gewch chi wybodaeth a diweddariadau am y Cyngor Tref, yr hyn rydym ni’n ei wneud a’r mudiadau a’r sefydliadau yn ein tref. Wrth i’n tref barhau i dyfu a datblygu, fe welwch agendâu a chofnodion ein cyfarfodydd, yn eich hysbysu am y materion a drafodwyd.
Mae cynghorau tref yn gweithredu ar lefel llawr gwlad, ac rydym ni’n croesawu sgyrsiau efo trigolion, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd – rydym ni yma i rannu ac uchafu llais a barn y gymuned.
Mae ein gwefan yn egluro sut mae’r cyngor yn gweithio a sut i ddod o hyd i’ch cynghorydd lleol. Os hoffech chi gael gwybod rhagor, edrychwch drwy’r wefan neu mae croeso i chi gysylltu â ni. Rydym ni’n barod i helpu bob amser.
