Cartref > Eich Cyngor

Y Sgwrs Fawr

Mae’r Rhyl yn mynd drwy gyfnod o newid ac mae angen i sut rydym ni’n ymdrin â’r newidiadau hynny – yr heriau a’r cyfleoedd fel ei gilydd – gyd-fynd ag anghenion a dyheadau ein cymuned. Rydym ni wedi nodi pedwar prif faes y teimlwn y dylid ac y gellid gwneud newidiadau, ond hoffem gael eich help chi i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Gofynnwn yn garedig i chi gymryd ychydig o funudau i rannu eich barn, os gwelwch yn dda.   

Er mwyn i ni ddatblygu ein cynllunio a chanolbwyntio ein gwaith yn y meysydd priodol, byddai’n fuddiol cael gwybod beth sydd fwyaf pwysig i chi. Isod nodir y pedwar prif faes gyda’u hamcanion. Gofynnwn i chi gymryd ychydig o funudau i’w rhoi mewn trefn o ran yr hyn sydd bwysicaf i CHI.

Rhowch y blychau yn y drefn 1-4, gyda 1 yn cynrychioli'r flaenoriaeth uchaf i chi.

1. Ymgysylltu a Chyfathrebu â’r Gymuned

Cyfathrebu’n glir, yn agored ac yn rheolaidd â thrigolion, busnesau a phartneriaid i feithrin ymgysylltu ystyrlon ac eiriol ar ran ein cymunedau.

2. Cydlyniad Cymdeithasol

Targedu’r cymorth i ble mae’r mwyaf o angen, drwy weithio mewn partneriaeth, buddsoddi mewn pobl a lleoedd i gryfhau’r cysylltiadau rhwng ein cymunedau amrywiol a hyrwyddo mynediad teg i wasanaethau a chyfleoedd.

3. Iechyd, Llesiant a’r Amgylchedd

Cefnogi, eiriol ar ran a hyrwyddo prosiectau a mudiadau sy’n gwella a chyfoethogi ein mannau agored, ein dyfroedd a’r amgylchedd adeiledig, er budd iechyd a llesiant pobl a bywyd gwyllt y Rhyl. Creu mannau diogel, cynhwysol a chroesawgar i bawb eu mwynhau.

4. Canol y dref a Digwyddiadau

Gweithio gydag a dylanwadu ar sefydliadau partner i greu tref ddeniadol a hyfyw sy’n cynnal canol tref gyfeillgar a diogel a fydd yn sail i lunio economi leol sy’n ffynnu ac yn fwy gwydn.

Os ydych yn hapus i wneud hynny, nodwch eich cod post, os gwelwch yn dda. Mae hwn yn gwestiwn dewisol, ond byddai’n helpu i nodi’r ardaloedd ble mae angen targedu cymorth.

Ydy’r cod post hwn yn perthyn i:

Ni fydd y data yn y ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio i adnabod unigolion neu fusnesau yn y Rhyl. Bydd y data’n cael ei drin yn unol â’n polisïau, sydd i’w gweld ar dudalen Polisi Preifatrwydd. Bydd y ffurflenni’n cael eu dileu ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech chi gael copi caled, mae croeso i chi gysylltu â ni: enquiries@rhyltowncouncil.org.uk/01745 331114