Cartref > Hygyrchedd
Hygyrchedd
Cyngor Tref y Rhyl sy’n darparu’r wefan hon. Dyluniwyd y wefan i gael ei defnyddio gan gymaint o bobl ag y bo modd. Ei nod ydy bod yn glir a hawdd i’w defnyddio gan ddefnyddio’r offer sy’n gweddu orau i’ch anghenion chi.
Ein bwriad ydy ei gwneud yn hawdd darllen y wybodaeth ddiweddaraf. Mae ein gwefan yn cynnwys sawl dogfen PDF sy’n ymwneud â’n gwaith. Mae’n bosib na fydd nifer fechan o’r dogfennau hynny, yn benodol dogfennau PDF wedi’u cyhoeddi ar ôl 2018, yn bodloni gofynion hygyrchedd Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac apiau ar gyfer dyfeisiau symudol) (Rhif 2) 2018.
Yn bennaf mae’r dogfennau PDF ar ein gwefan yn:
- Agendâu
- Cofnodion
- Nodiadau
- Polisïau
- Canllawiau
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddiwygio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill oni bai eu bod yn ymwneud â darparu gwasanaeth penodol. Gan fod ein dogfennau PDF ni ar gyfer rhannu gwybodaeth ac nid darparu gwasanaethau, nid yw’n ofynnol i ni eu diwygio.
Os oes arnoch chi angen unrhyw wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, a gwnawn ystyried yr holl geisiadau rhesymol a chymesur. Pan fyddwch yn cysylltu â ni, nodwch y wybodaeth sy’n ofynnol a’r fformat, os gwelwch yn dda. Ein nod yw rhoi ymateb cychwynnol i chi cyn pen 10 diwrnod gwaith.
Rhif ffôn: 01745 331114
Gwefan: Cysylltwch â ni ar-lein drwy gyfrwng y ffurflen ‘Cysylltu â ni’
E-bost: enquiries@rhyltowncouncil.org.uk
Trwy’r post:
Cyngor Tref y Rhyl, Neuadd y Dref y Rhyl, Ffordd Wellington, Y Rhyl , LL18 1BA
Rydym ni’n gweithio i sicrhau bod pob dogfen PDF a gynhyrchir yn y dyfodol yn bodloni’r safonau hygyrchedd.
