Cartref > Eich Cyngor > Ein Gwasanaethau
Ein Gwasanaethau
Beth ydyn ni'n ei wneud?
Mae cynghorau tref, sydd wrth graidd bywyd lleol, yn chwarae rhan hanfodol bwysig wrth roi llais cryf i gymunedau. Fel rhan allweddol o ddemocratiaeth leol, mae Cyngor Tref y Rhyl yn gweithredu fel y cyswllt rhwng trigolion a’r awdurdod arweiniol – Cyngor Sir Ddinbych.
Yn wahanol i awdurdodau mwy, sy’n gorfod cydbwyso blaenoriaethau ar draws nifer o ardaloedd a meysydd, mae cynghorau tref a chymuned yn canolbwyntio ar anghenion eu cymuned eu hunain yn unig. Mae materion lleol a chynlluniau, prosiectau a mentrau lleol yn cael eu trafod drwy’r cynghorwyr tref etholedig a, ble bo angen, yn cael eu herio ar lefel sirol.
Mae Cyngor Tref y Rhyl yn cynnwys 22 cynghorydd, yn cynnwys Maer, sy’n gwasanaethu fel arweinydd dinesig y Cyngor sy’n cynrychioli’r dref mewn digwyddiadau’n lleol ac ymhellach i ffwrdd, a Dirprwy Faer. Mae’r cynghorwyr yn cynrychioli wardiau’r dref – ardaloedd diffiniedig yn y Rhyl.
Cefnogir y Cyngor Tref gan bedwar swyddog: Clerc y Dref, Dirprwy Glerc y Dref, Swyddog Cyllid a Swyddog Cyfathrebu a Gweinyddol. Ar y cyd maen nhw’n cefnogi’r cynghorwyr yn eu gwaith ac yn cysylltu â thrigolion, sefydliadau allanol a Chyngor Sir Ddinbych, er mwyn gwasanaethu’r gymuned yn effeithiol.
Mae mwyafrif y galwadau ffôn dyddiol i’r Cyngor Tref am faterion tebyg, fel biniau, gwasanaethau tai a’r dreth gyngor. Mae’r gwasanaethau hyn yn gyfrifoldeb i Gyngor Sir Ddinbych – galwch gysylltu â’r Cyngor Sir ar 01824 70600.
Rydyn ni’n hapus i helpu drwy gyfeirio trigolion at y gwasanaethau cywir, neu godi unrhyw faterion neu broblemau ar eu rhan, ond mae pwerau a chyfrifoldebau’r Cyngor Tref yn wahanol i rai’r Cyngor Sir. Felly be’ mae Cyngor Tref y Rhyl yn ei wneud?
Yn y Rhyl, rydym ni’n:
Buddsoddi arian lleol yn ôl yn y gymuned, drwy gefnogi prosiectau, mentrau a gwasanaethau lleol. Er enghraifft, rydym ni’n ariannu Swyddog Ynni gyda Chyngor ar Bopeth, sy’n helpu trigolion â phroblemau fel tlodi tanwydd, a Swyddog Apeliadau yn y Siop Cyngor am Fudd-daliadau..Mae’r ddau wasanaeth yn cefnogi nifer fawr o bobl ledled y dref.
Cefnogi gweithgareddau a digwyddiadau sy’n dod â phobl at ei gilydd ac yn eu cynorthwyo i greu balchder yn eu cymuned, yn cynnwys digwyddiad goleuo Goleuadau Nadolig y Rhyl.
Cynnal a gofalu am ardaloedd penodol o’r dref, fel y Gerddi Coffa a nifer o gysgodfannau bws.
Adolygu a chyflwyno sylwadau ar geisiadau cynllunio, gan sicrhau bod y farn leol yn cael ei hystyried.
Rhoi cyllid i gefnogi gwasanaethau Cyngor Sir Ddinbych, yn cynnwys cadw toiledau cyhoeddus ar agor a chefnogi’r Ganolfan Groeso yn ystod misoedd y gaeaf. Mae’r Cyngor hefyd yn gyfrifol am gynnal a chadw borderi blodau a chynwysyddion planhigion ledled y dref.
Mae Cyngor Tref y Rhyl yn gweithio yn unol â strategaeth sy’n sylfaen i’w holl weithgareddau a’i broses gwneud penderfyniadau. Mae’r strategaeth hon wedi’i seilio ar bum thema allweddol:
- Cydlyniad cymdeithasol
- Iechyd a llesiant
- Yr amgylchedd
- Canol y dref a digwyddiadau
- Ymgysylltu a chyfathrebu â’r gymuned
Dull y Cyngor Tref yw gweithio mewn partneriaethau gyda sefydliadau, grwpiau ac unigolion lleol sydd eisoes yn darparu gwasanaethau yn y dref. Ble bo angen cymorth ychwanegol – yn cynnwys cymorth ariannol – mae’r Cyngor yn helpu prosiectau i ddatblygu, tyfu a pharhau i fod o fudd i’r gymuned.
Mae Cyngor Tref y Rhyl yn cael cyllid drwy braesept y dreth gyngor ac mae’n ailfuddsoddi’r arian hwn yn uniongyrchol er budd y gymuned. Mae’r Cyngor yn trin arian cyhoeddus yn ofalus ac yn gyfrifol ac, o ganlyniad i hynny, nid yw wedi cynyddu’r praesept ers nifer o flynyddoedd.
Mae Cyngor Tref y Rhyl yn cyfarfod o leiaf unwaith y mis (ac eithrio ym mis Awst) i drafod materion sy’n effeithio ar y dref. Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd, ac mae’r agendâu a’r cofnodion yn cael eu cyhoeddi ar-lein, gan sicrhau bod y Cyngor yn agored a thryloyw ac yn rhoi cyfleoedd i’r gymuned gymryd rhan.
Os ydych chi’n aelod o grŵp neu fudiad lleol a fyddai’n elwa o’n cymorth ni, cysylltwch efo ni os gwelwch yn dda.
Rydym ni’n awyddus i gynyddu ymwybyddiaeth am ddemocratiaeth leol a sut mae’n gweithio, gan ganolbwyntio’n benodol ar ennyn diddordeb pobl ifanc. Os hoffech i ni ymweld â’ch mudiad chi i sgwrsio am ddemocratiaeth leol ar waith, byddem yn falch iawn o glywed gennych chi.
