Cartref > Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

Ein manylion cyswllt 

Enw: Cyngor Tref y Rhyl 
Cyfeiriad: Neuadd y Dref y Rhyl, Ffordd Wellington, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 1BA
E-bost: enquiries@rhyltowncouncil.org.uk
Rhif ffôn: 01745 331 114
 
Ni yw’r Rheolwr Data wrth ymdrin â’ch gwybodaeth.  

Pa ddata personol ydym ni’n ei gasglu? 

Gallem gasglu, defnyddio a storio’r mathau o ddata personol a nodir isod:  

  • Data sy’n galluogi adnabod unigolyn: Enw, teitl, enwau eraill, ffotograffau. 
  • Manylion cyswllt: Rhifau ffôn, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost. 
  • Manylion ariannol: Rhif cyfrif banc neu fanylion cerdyn banc os ydych chi’n talu am unrhyw ddigwyddiad neu wasanaeth a gynigir gan y Cyngor yn y dyfodol.  
  • Gwybodaeth arall: Gwybodaeth a nodir mewn llythyrau, negeseuon e-bost, llythyrau newyddion neu ffurflenni (e.e. yng nghyswllt ceisiadau cynllunio, cwynion neu ymgynghoriadau cyhoeddus).  

Gwybodaeth gyhoeddus 

Mae’r wybodaeth rydym ni’n ei rhannu’n gyhoeddus yn cynnwys: 

  • Agendâu, cofnodion a nodiadau cyfarfodydd y Cyngor a datganiadau i’r wasg a llythyrau newyddion.  
  • Datganiadau blynyddol, hysbysiadau a thaliadau i aelodau. 
  • Datganiadau, polisïau a chanllawiau llywodraethu. 
  • Adroddiadau archwilio. 
  • Gwybodaeth am gynghorwyr, yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i: enw, cyfeiriad, manylion cyswllt ac ymlyniad gwleidyddol.  

Mae cyfarfodydd y Cyngor yn agored i’r cyhoedd, yn gyffredinol. 

Sut rydym ni’n cael gwybodaeth bersonol a pham  

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol yn cael ei chyflwyno’n uniongyrchol gennych chi, er enghraifft, pan fyddwch chi’n:  

  • Cysylltu â ni gydag ymholiad, cwyn neu ganmoliaeth. 
  • Cymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus. 
  • Dod i ddigwyddiadau neu gyfarfodydd y Cyngor.   

Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yr isod: 

  • Darparu a datblygu gwasanaethau cyhoeddus.  
  • Cadarnhau eich hunaniaeth.  
  • Rhoi diweddariadau i chi ynghylch unrhyw ddigwyddiad neu wasanaeth a drefnir gan y Cyngor.  
  • Atal a chanfod twyll ac arferion llwgr.  

Sail gyfreithlon i brosesu data 

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), rydym ni’n defnyddio’r seiliau cyfreithlon a ganlyn:   

  • Tasg gyhoeddus: Cyflawni tasgau er budd y cyhoedd neu i weithredu ein hawdurdod swyddogol.  
  • Ymrwymiad cytundebol: Ble’r ydych chi wedi ymrwymo i gytundeb gyda ni i ddarparu gwasanaeth i’r Cyngor yn y dyfodol.  
  • Ymrwymiad cyfreithiol: Ble bo’n ofynnol i ni brosesu data dan y gyfraith.  
  • Cydsyniad: Ble’r ydych chi wedi rhoi caniatâd clir i ni brosesu eich data ar gyfer diben penodol (e.e. llythyrau newyddion).  

Rhannu eich gwybodaeth 

Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth yn unig pan yw’n angenrheidiol i gyflawni ein swyddogaethau neu i gynorthwyo asiantaethau eraill. Gallem rannu data gydag: 

  • Awdurdodau lleol eraill (e.e. Cyngor Sir Ddinbych).   
  • Contractwyr neu asiantau sy’n gweithredu ar ein rhan.  
  • Yr heddlu neu awdurdodau cyfreithiol i atal/canfod troseddau.  
  • Archwilio Cymru. 

Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti at ddibenion marchnata neu ddibenion masnachol.  

Pa mor hir y byddwn ni’n cadw eich data

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyhyd ag y bo angen ar gyfer y diben y’i casglwyd, neu i gyflawni ein gofynion cyfreithiol.  

Diogeledd data 

Rydym ni’n cymryd camau i sicrhau bod data personol yn cael ei storio’n ddiogel, yn cynnwys:  

  • Storio cofnodion papur yn ddiogel  
  • Systemau cyfrifiadurol wedi’i gwarchod gan gyfrineiriau 
  • Amgryptiaid dyfeisiau storio cludadwy 
  • Cyfyngu ar y rhai sy’n medru cyrchu’r gweinyddion 
  • Gwaredu dogfennau cyfrinachol mewn modd diogel 
  • Gwneud copïau wrth gefn o’r systemau  

Eich hawliau diogelu data 

Mae gennych chi hawliau o dan y gyfraith diogelu data, sy’n cynnwys:  

  • Gweld eich data: cewch ofyn i ni am gopi o’ch gwybodaeth bersonol.  
  • Cywiro: cewch ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir. 
  • Dileu: cewch ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol o dan amgylchiadau penodol.  
  • Cyfyngu: cewch ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data.  
  • Gwrthwynebu: cewch wrthwynebu prosesu eich data.  
  • Tynnu caniatâd yn ôl: os ydym ni’n dibynnu ar gydsyniad, cewch ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg.   

Sut i wneud cwyn 

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am y modd rydym ni’n defnyddio eich data personol, cewch gysylltu â ni - rhyltowncouncil.org.uk

Cewch hefyd gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi’n anhapus ynghylch y modd y gwnaethom ni ddefnyddio eich data:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth 
Tŷ Wycliffe 
Lôn Dŵr / Water Lane 
Wilmslow 
Swydd Gaer / Cheshire 
SK9 5AF

Llinell gymorth: 0303 123 1113 | Gwefan: www.ico.org.uk 

Adolygir y polisi hwn bob dwy flynedd, neu ynghynt os bydd angen oherwydd newidiadau deddfwriaethol neu drefniadaethol.