Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Maer newydd y Rhyl

Maer newydd y Rhyl

CYMUNED gydlynol a hyrwyddo newid cadarnhaol yw’r prif flaenoriaethau i faer newydd y Rhyl. 

Etholwyd y Cynghorydd Joan Butterfield, sydd wedi bod yn gynghorydd tref am dros 40 mlynedd, yn Faer ac addawodd i ddefnyddio ei blwyddyn yn y swydd i gefnogi gwaith mudiadau yn y Rhyl ac adfer balchder yn y dref. 

Cyflwynwyd MBE iddi yn 2011 am ei gwaith yn y gymuned, a dywed y Cynghorydd Butterfield mai’r un ethos sydd wedi ei hysbrydoli drwy gydol ei blynyddoedd fel cynghorydd.   

Dywedodd y Cynghorydd Butterfield, sy’n cynrychioli Ward y Foryd, ei bod yn edrych ymlaen at fod yn Faer am y trydydd tro.   

“Rydw i’n ystyried bod yn Faer y Rhyl yn anrhydedd, sydd yr un mor bwysig i mi y tro hwn. Rydw i bob amser wedi credu fod cryfder ein tref yn deillio o’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma; mae ysbryd cymunedol a gweithio mewn partneriaeth yn allweddol, hyd yn oed yn fwy felly yn y cyfnod heriol hwn.   

“Mae’r Cyngor Tref wedi bod yn gweithio ar y cyd i ddiweddaru ei flaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf, ac mae’r hyn y byddaf i’n canolbwyntio arno yn ystod y 12 mis nesaf yn cyd-fynd â nhw. Fy thema drwy gydol y flwyddyn fydd cydlyniad, a byddaf yn cefnogi’r cymunedau a’r mudiadau sy’n dod at ei gilydd er budd pawb, i wneud ein tref yn wydn ac i gefnogi’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y dref.” 

Dywedodd y Cynghorydd Butterfield, sydd hefyd yn Gynghorydd Sir Ddinbych sy’n cynrychioli Gorllewin y Rhyl, ei bod wedi gweld sawl newid dros y blynyddoedd, a bod y dref yn wynebu heriau newydd, ond gweithio gyda’n gilydd yw’r ffordd ymlaen. 

“Mae’r Rhyl wedi gweld swm enfawr o fuddsoddi yn y dref yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda rhagor ar y ffordd, ac rydym ni’n hynod o ymwybodol fod llawer i’w wneud. Mae newid yn cymryd amser; mae hefyd yn bwysig ein bod yn ennyn pobl i ddod gyda ni drwy’r newidiadau hynny ac adfer ymdeimlad o falchder yn ein tref. Mae ein tref wedi’i bendithio â llawer o bethau, ond rydym yn cydnabod bod rhagor o waith i’w wneud. Medrwn wrando, a rhannu gobeithion pobl y Rhyl, defnyddio ein llais i bwysleisio eu dymuniadau a chefnogi’r mudiadau sy’n gweithio mor galed yn y dref.”   

Consort y Cynghorydd Butterfield am y flwyddyn fydd Mr David Turner, ac un o’u digwyddiadau cyntaf fydd digwyddiad codi arian i Gadetiaid Môr y Rhyl – un o elusennau’r Maer newydd.

Cynhelir y digwyddiad yn Eglwys Sant Tomos, Y Rhyl, nos Sadwrn, 6 Mehefin am 7.30pm, yng nghwmni Côr Meibion Trelawnyd. Mae’r tocynnau’n £10 yr un ac ar gael drwy gysylltu â Jacquie.Mcalpine@tsrhyl.org / 07549 165779. Elusennau eraill y Cynghorydd Butterfield yn ystod ei chyfnod fel Maer fydd Y Rhyl sy’n Deall Dementia a Grŵp Sgowtiaid 1af y Rhyl.

*Y Dirprwy Faer ym mlwyddyn ddinesig 2026/2027 fydd y Cynghorydd Will Price, sy’n cynrychioli Ward Trellewelyn.

Gwahodd y Maer

Cllr Joan Butterfield

Pôb stori newyddion