Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Y Sgwrs Fawr

Y Sgwrs Fawr

Gwahodd cymuned i ddweud ei dweud am fla.

Bydd Cyngor Tref y Rhyl yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus wrth iddo fynd ati i ddatblygu elfennau i ganolbwyntio arnyn nhw yn y dyfodol.

Bu’r Cyngor yn gweithio ar ddatblygu set o flaenoriaethau newydd i gefnogi’r dref yn y ffordd orau yn ystod y misoedd diwethaf. Nawr bydd trigolion a busnesau yn cael y cyfle i bennu trefn themâu’r Cyngor yn unol â’r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw a chynnig syniadau i helpu gyda’r mentrau newydd yn ystod cyfres o sesiynau ymgysylltu o’r enw’r Sgwrs Fawr.

Dywedodd Clerc y Dref, Helen Mead: “Rydym ni’n llwyr ymwybodol fod heriau yn y dref ac rydym wedi bod yn ystyried y ffordd orau i dargedu ein hymdrechion a’n hadnoddau yn y dyfodol. Rydym ni angen canolbwyntio ar y materion allweddol sydd fwyaf pwysig i bobl sy’n byw, yn gweithio neu’n gyfrifol am gynnal sefydliad yn y Rhyl, a’r unig ffordd o wneud hynny yw drwy wrando ar yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud.

“Er ein bod yn gwybod y gofynnwyd i’r gymuned leisio ei barn mewn nifer o ymgynghoriadau yn ddiweddar, rydym ni’n lansio’r Sgwrs Fawr a byddwn allan ymhob rhan o’r Rhyl, yn annog cymaint o bobl ag y bo modd i sgwrsio gyda ni i rannu eu syniadau a’u gweledigaeth. Rydym ni angen ystyried y Rhyl fel y mae heddiw, ac yna weithio i gefnogi, cyfoethogi at adfywio ein tref a’i thrigolion. Dylai ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol berthyn i bawb.”

Y pedwar priff faes y bydd y Cyngor yn canolbwyntio arnyn nhw fydd cydlyniad cymdeithasol, canol y dref a digwyddiadau, ymgysylltu a chyfathrebu â’r gymuned a’r amgylchedd, iechyd a llesiant. Byddwn yn gofyn i bobl roi’r blaenoriaethau yma mewn trefn yn ôl yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw. Bydd cyfle hefyd i rannu syniadau am brosiectau i helpu’r Cyngor i bennu a chyflawni ei amcanion newydd.

“Mae pwerau Cyngor Tref yn wahanol i rai awdurdodau sir, ac er bod rhai cyfyngiadau, gallwn gefnogi gwasanaethau a sefydliadau, lleisio pryderon neu hyrwyddo prosiectau. Bydd y gyfres o sgyrsiau hyn yn bwysig gan y byddant yn helpu i nodi beth ddylai’r Cyngor Tref ganolbwyntio arno a’n galluogi i benderfynu ar brosiectau yn y dyfodol, a byddwn yn rhannu hyn yn gyhoeddus. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i bobl gael dweud eu dweud ac mae ein neges ni’n glir: rydym ni yma ac yn gwrando,” meddai Helen.

Bydd y tîm yn ymweld â gwahanol leoliadau yn y Rhyl, ac mae gwahoddiad i bobl alw i mewn am sgwrs: 

Dydd Mawrth, 1 Medi: 10:00am - 2.30pm: Brighter Futures, Ffordd Wellington

Dydd Mercher, 2 Medi: 9.30am - 12.30pm: Y Stryd Fawr, y promenâd a Chei’r Marina

Dydd Iau, 3 Medi: 10.30am - 2:00pm: Marchnad y Frenhines

Dydd Gwener, 4 Medi: 2:00pm - 4:00pm: Y Stryd Fawr a’r promenâd/Ffordd y Dyffryn / Ffordd Rhuddlan

Dydd Sadwrn, 5 Medi: 10.30am - 12.30pm: Cei’r Marina

Os na fedrwch ddod i gyfarfod y tîm wyneb yn wyneb, mae croeso i chi adael adborth drwy gyfrwng y dolenni isod:

Saesneg: https://rhyltowncouncil.org.uk/en/the-big-conversation

Cymraeg: https://rhyltowncouncil.org.uk/cy/y-sgwrs-fawr

Os nad oes modd i chi ddod i’r sesiynau, mae croeso i chi adael adborth drwy gyfrwng y wefan yma https://rhyltowncouncil.org.uk/cy/y-sgwrs-fawr

Y Sgwrs Fawr

Pôb stori newyddion