Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Cydnabyddiaeth i Achubwr Bywyd o’r Rhyl

Cydnabyddiaeth i Achubwr Bywyd o’r Rhyl

MAE DYN o’r Rhyl y gwnaeth ei ymateb cyflym a’i ddewrder helpu i achub bywyd dynes yn ymweld å’r dref wedi cael cydnabyddiaeth am ei weithredoedd.

Gwnaeth Peter Mckeown gyflawni adfywio cardiopwlmonaidd ar Jean Forde, 75 oed, ar ôl iddi ddioddef ataliad ar y galon ar y stryd fawr.  

Roedd Mrs Forde yn ymweld â’r Rhyl gyda’i theulu pan ddechreuodd deimlo’n wael. Daeth Mr Mckeown i’r adwy, gan ddefnyddio ei reddf a’i hyfforddiant cymorth cyntaf a dderbyniodd tra’n gwasanaethu yng nghatrawd y Cymry Brenhinol i gyflawni adfywio cardiopwlmonaidd, nes i’r gwasanaethau brys a’r ambiwlans awyr gyrraedd.  

Yn dilyn clywed am ei ymdrechion, gwnaeth Maer y Rhyl, y Cynghorydd Joan Butterfield wahodd Mr Mckeown i ddod i gyfarfod y Cyngor Tref, a chyflwynwyd llythyr clod wedi’i lofnodi iddo.  

Dywedodd y Cynghorydd Butterfield: “Mae’r dref yn cydnabod dewrder Mr McKeown a’i agwedd anhunanol yn mynd i roi cymorth i Mrs Forde. Rydym ni’n clywed y straeon dychrynllyd yn rhy aml, ac nid y straeon da, ac roeddem ni’n teimlo fod gweithredoedd Mr Mckeown yn haeddu cael cydnabyddiaeth. Roeddem ni’n falch iawn i’w wahodd i gyfarfod y Cyngor. Diolchwn yn fawr iawn iddo am ei ddewrder a dymunwn y gorau i Mrs Forde a’i theulu.”

Roedd y llythyr yn canmol dewrder a gweithredoedd Mr McKeown, a dywedodd y Cyngor ei fod yn gobeithio y byddai’n ‘atgoffa pawb am bwysigrwydd bod yn ystyrlon a charedig.’  

Dywedodd Mr Mckeown mai’r unig beth ar ei feddwl oedd cael Mrs Forde i fan diogel a’i flaenoriaeth oedd cael cymorth brys iddi mor gyflym â phosib. Diolchodd i’r bobl gerllaw a oedd wedi dod i helpu hefyd, a soniodd ei fod wedi rhoi cymorth i ddynes arall yn y dref yn flaenorol pan wynebodd anawsterau iechyd.  

“Rwy’n hynod o ddiolchgar fy mod i yn y lle iawn ar yr adeg iawn i helpu’r ddwy ddynes, ac rwy’n dymuno’r gorau i Jean yn ei hadferiad a dyfodol gwych gyda’i theulu rhagorol,” ychwanegodd Peter.

Maer y Rhyl, y Cynghorydd Joan Butterfield, yn cyflwyno ei lythyr clod i Peter Mckeown

Pôb stori newyddion