Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Diwrnod Nadoligaidd Prysur

Diwrnod Nadoligaidd Prysur

SÊR yn tywynu yn y Rhyl yn ystod diwrnod Nadoligaidd prysur.

Bydd y Nadolig yn dod i’r dref yn gynnar gyda dau ddigwyddiad am ddim wedi’u noddi gan Gyngor Tref y Rhyl, Llon a Llawen a Sêr y Nadolig, yn dynodi cyfnod y Nadolig. 

Mae’r Cyngor yn cynnal diwrnod llawn o hwyl, gemau, hud a lledrith a cherddoriaeth ym mis Tachwedd, yn cynnwys perfformwyr o raglenni Britain’s Got Talent a The Voice.

Bydd enillydd Britain’s Got Talent, cyn-filwr ym myddin Prydain, y consuriwr Richard Jones yn arwain noson i’w chofio, gyda chystadleuydd arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol, y canwr Gruffydd Wyn o Ynys Môn. Bydd un o gystadleuwyr rhaglen The Voice, y soprano glasurol Emilie Parry-Williams, yn perfformio ynghyd â’r enwog Gôr Meibion y Rhos. Bydd yr unawdydd o ogledd Cymru Sophie Roxanne, fu’n cystadlu ar raglen Y Llais ar S4C, yn cwblhau’r arlwy. 

Ond cyn y dathliadau gyda’r nos, caiff plant a theuluoedd fwynhau oriau o hwyl a gemau ym Marchnad y Frenhines. Bydd y digwyddiad Llon a Llawen yn llawn gweithgareddau celf a chrefft, stondinau a gemau, yn cynnwys taflu peli eira, ymweliadau gan westeion arbennig fel corachod direidus a chymeriadau Siôn Barrug ar ystudfachau.

Bydd Arriva yn ymuno yn yr hwyl gyda’u bws Nadolig. Bydd Siôn Corn ar y bws, a chyfle i gael paentio eich wyneb a llawer rhagor. Uchafbwynt y gweithgareddau yn ystod y dydd fydd goleuo goleuadau Nadolig y dref, a chanu gyda’r grŵp Ghostbuskers wrth y goeden Nadolig ar y Stryd Fawr. 

Dywedodd Clerc y Dref, Helen Mead: “Mae Cyngor Tref y Rhyl wrth ei fodd yn cynnal nid un ond dau ddigwyddiad am ddim i ddathlu cyfnod y Nadolig. Yn ystod un diwrnod caiff teuluoedd fwynhau gweithgareddau, hwyl a gemau ym Marchnad y Frenhines cyn goleuo’r goeden Nadolig ar y stryd fawr. Yna draw i Eglwys Sant Tomos ar gyfer Sêr y Nadolig, noson o hud a lledrith a cherddoriaeth. Rydym ni’n newid pethau’n llwyr eleni ac rydym wrth ein boddau’n croesawu doniau disglair i’r Rhyl am ddiwrnod i’w gofio. Bydd rhywbeth at ddant pawb, a fedrwn ni ddim aros i rannu diwrnod llawn a gwych efo pobl y Rhyl.”

Dywedodd Richard, y consuriwr cyntaf i ennill cystadleuaeth Britain’s Got Talent, ei fod yn edrych ymlaen at ddod i’r dref i gyflwyno a chymryd rhan yn Sêr y Nadolig.

Ychwanegodd: “Rydw i’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r digwyddiad arbennig hwn. Bydd cael cymaint o berfformwyr gwych gyda’i gilydd mewn lleoliad Nadoligaidd yn rhywbeth rydw i’n edrych ymlaen ato. Byddaf yn rhannu peth o’m hoff hud a lledrith. Fedra’ i ddim aros.

Dywedodd John Hughes, Rheolwr Depo Arriva yn y Rhyl, fod pawb yn Arriva wrth eu boddau’n cydweithio efo’r Cyngor Tref i gefnogi’r digwyddiad Llon a Llawen yn ystod y dydd. 

Dywedodd: “Dylai’r Nadolig fod yn adeg hudol i bob plentyn, ac rydym yn falch iawn o gyfrannu i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i weld Santa a mwynhau’r profiad Nadoligaidd. Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan a helpu i wneud y Nadolig hwn yn un arbennig i blant a theuluoedd ledled ein cymuned leol.”

Cynhelir y digwyddiadau ddydd Sadwrn, 28 Tachwedd. 

Bydd Llon a Llawen yn cael ei gynnal ym Marchnad y Frenhines rhwng hanner dydd a 4pm. Mynediad am ddim, a gwahoddir teuluoedd i alw heibio yn ystod y dydd. 

Cynhelir Sêr y Nadolig yn Eglwys Sant Tomos, Ffordd Russell, am 7pm. Mae’r tocynnau am ddim ac ar gael o: Wefan Book Tickets Global

Bydd y Cyngor Tref yn trefnu parcio am ddim yn y Rhyl ar ddiwrnod y digwyddiad. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rannu ar ei lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a’i wefan yn nes at yr amser. 

Bywgraffiadau’r perfformwyr

Yr Is-gorpral Richard Jones

Mae un o gonsurwyr mwyaf poblogaidd yn y byd, y cyn-filwr ym myddin Prydain, wedi denu dilyniant anhygoel ar y cyfryngau cymdeithasol ers iddo ddod y consuriwr cyntaf i ennill Britain’s Got Talent. Ar ôl i 24 miliwn o bobl weld ei ragbrawf yn fyw, aeth trwodd i’r rownd derfynol lle gwnaeth dynnu deigryn i’r llygaid gyda’i berfformiadau twymgalon wnaeth ennill 2.5 miliwn o bleidleisiau gan y cyhoedd. Mae’n cael ei adnabod fel y Military Illusionist, sy’n adlewyrchu cynnwys ei sioeau hud a lledrith corfforaethol. 

Ar ôl dod yn aelod o’r Fyddin yn 2010, gwasanaethodd Richard efo’r Gatrawd Parasiwt, y Marchoglu Gosgordd a threuliodd flwyddyn yng Ngholeg Brenhinol Cerddoriaeth y Fyddin. Cymrodd seibiant byr i ymddangos ar, ac ennill, Britain’s Got Talent, cyn dychwelyd i fod yn rhan o’r band yn seremoni Baneri’r Catrawdau i ddathlu pen-blwydd y Frenhines yn 90 oed. 

Cyn dechrau ar nifer o deithiau perfformio llwyddiannus iawn, prif berfformiad Richard yn dilyn BGT oedd yn y Royal Variety Performance, gyda dros 4,000 o wylwyr wedi gwylio’r achlysur yn fyw. Dyfarnwyd statws Aelod o’r Cylch Hud Mewnol gyda Seren Aur iddo, sy’n un o’r anrhydeddau mwyaf ym maes consurio, sy’n adlewyrchu rhagoriaeth dechnegol a gallu perfformiadol. 

poster richard jones

Côr Meibion y Rhos

Sefydlwyd y côr yn 1891, ac mae eu cerddoriaeth i’w glywed yn aml ar Classic FM. Maen nhw wedi bod ar y teledu sawl gwaith, ac wedi perfformio ledled y byd a gydag unawdwyr fel Bryn Terfel, Katherine Jenkins a Gwyn Hughes Jones.

 

Côr Meibion ​​Rhos yn canu mewn cyngerdd

Emilie Parry-Williams

Mae Emilie Parry-Williams yn soprano glasurol o Sir Fynwy. Mae ei gyrfa amrywiol wedi cwmpasu opera a sioeau cerdd, ac mae’n adnabyddus am ei thechneg lleisiol eithriadol a’i harddull perfformio ystwyth. Mae galw mawr am ei gwasanaeth gan ystod eang o gomisiynau a gwahoddiadau i berfformio mewn lleoliadau uchelgeisiol ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. 

Cafodd sylw rhyngwladol fel cystadleuydd ar raglen The Voice UK yn 2022, lle gwnaeth hi argraff ar y pedwar beirniad yn ystod y rhagbrofion, gan lwyddo i gael y pedair cadair i droi. Defnyddiodd Syr Tom Jones ei fotwm blocio, y gallai ei ddefnyddio unwaith ymhob cyfres, i atal Emilie rhag dewis Olly Murs, gan ychwanegu haen ychwanegol o gyffro at ei pherfformiad anhygoel.

Emilie Parry Williams yn canu ac yn dal meicroffon.

Gruffydd Wyn

Mae Gruffydd Wyn yn artist talentog o Ynys Môn. Roedd yn rownd derfynol y rhaglen ‘Britain’s Got Talent’ yn 2018, gan dderbyn y botwm aur gan Amanda Holden a dod o fewn trwch blewyn i gyrraedd y brig. 

Bu Gruffydd yn brysur ers hynny, yn perfformio o flaen miloedd ledled y Deyrnas Unedig a bu’n perfformio yn Ne Affrica yn ddiweddar. Cafodd ei enwebu ar gyfer ‘Y Perfformiad Gorau’ yn y National Reality Television Awards hefyd. Gwnaeth ei sengl ddiweddaraf ‘Nelle Tua Mani (Nawr ein bod yn rhydd) saethu i rif un yn Siartiau Clasurol iTunes ar ddiwrnod rhyddhau’r sengl!                                   

Gruffydd Wyn oflaen curtain aur

Sophie Roxanne

Mae Sophie Roxanne yn unawdydd proffesiynol o ogledd Cymru, sy’n adnabyddus am ei llais cryf a’i pherfformiadau llawn emosiwn. Bu’n cystadlu yn rhaglen ‘Y Llais’ ar S4C. Wedi’i hysbrydoli gan artistiaid eiconig, yn cynnwys Celine Dion, Whitney Houston ac Adele, Sophie yw creawdwr The Diva Collection, sioe theatrig fyw sy’n dathlu’r unawdwyr benywaidd gorau.   

 

llun du a gwyn o Sophie Roxanne

Pôb stori newyddion