Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Hwb i gyllido prosiectau
Hwb i gyllido prosiectau
MAE prosiectau sydd wedi derbyn cefnogaeth gan y Cyngor yn galluogi llu o deuluoedd yn y Rhyl i fynd i’r afael â phryderon ynghylch biliau ynni a hawlio budd-daliadau, gyda gwerth £2 filiwn o gymorth wedi dod i’r dref o ganlyniad i’r prosiectau hyn.
Gyda chostau cynyddol yn cael effaith mawr, mae Cyngor Tref y Rhyl yn cyfrannu at gyllido swydd Swyddog Effeithlonrwydd Ynni gyda Chyngor ar Bopeth a Swyddog Apeliadau yn y Siop Cyngor ynghylch Budd-daliadau. Mae’r Cyngor cefnogi trydydd mudiad hefyd, Home-Start Cymru.
Mae’r Swyddog Effeithlonrwydd Ynni yn helpu pobl yn y Rhyl i ymdopi ag effaith costau biliau cyfleustodau sy’n cynyddu, a sgil-effeithiau hynny, drwy negodi gyda darparwyr ynni, rhoi cymorth tuag at daliadau a rheoli dyledion. Rhoir cyngor ymarferol hefyd, ynghylch y disgownt cartrefi cynnes, cynghorion ar weithredu’n ynni effeithlon a chymorth gyda cheisiadau am ddulliau arbed ynni.
Mae’r Siop Cyngor ynghylch Budd-daliadau’n helpu pobl â phob agwedd o apeliadau nawdd cymdeithasol, yn cynnwys cyflwyno’r gwaith papur apêl, rhoi cymorth drwy gydol y broses a pharatoi ar gyfer gwrandawiad tribiwnlys.
Mae staff a gwirfoddolwyr Home-Start Cymru yn rhoi cefnogaeth gyda sgiliau hanfodol i rieni wrth iddyn nhw wynebu heriau magu teulu ifanc.
Mae’r gwaith yn cynorthwyo pobl ledled y Rhyl, a diolch i gymorth gan y Cyngor yn flaenorol, mae miliynau o bunnoedd wedi dod i’r dref, gan leihau dyledion ynni, cyllido gwaith i gadw cartrefi’n gynnes a helpu teuluoedd i gael y cymorth a’r budd-daliadau y mae ganddyn nhw’r hawl iddyn nhw.
Dywedodd Clerc y Dref, Helen Mead, fod y gwaith a wnaed yn flaenorol wedi bod yn drawsnewidiol i bobl yn y Rhyl, felly roedd y gefnogaeth ariannol gan y Cyngor yn cael ei roi am flwyddyn arall.
Dywedodd, “Yn ystod y llynedd, diolch i’r Cyngor Tref yn cyllido’r tri phrosiect hwn, mae dwsinau o bobl a theuluoedd yn y Rhyl wedi medru wynebu’r broblem enfawr o dlodi tanwydd, cael cymorth gyda nawdd cymdeithasol a chael y sgiliau a’r hyder sy’n angenrheidiol i fagu teulu ifanc yn yr amgylchedd heriol sydd ohoni heddiw. Mae pobl yn wynebu llawer o bwysau, ac mae’r costau’n cynyddu’n barhaus ac nid oes unrhyw arwydd y bydd hynny’n newid. Rydym ni’n galluogi mudiadau i helpu rhai o’r unigolion mwyaf bregus gael cymorth sydd ei ddirfawr angen.”
Dywedodd Mrs Mead na ellid anwybyddu lefel y cymorth a’r effaith ariannol cadarnhaol.
Ychwanegodd: “Yn ystod un chwarter ariannol yn unig, gwnaeth cleientiaid yn y Rhyl gael £335,854 o enillion budd-daliadau drwy Cymorth ar Bopeth, patrwm a ailadroddwyd yn gyson dros gyfnod o 12 mis. Mae’r gwaith gan y mudiadau hyn wedi newid eu bywyd yn achos rhai pobl. Mae’r Cyngor wrth ei fod yn parhau i roi cyllid ar gyfer prosiectau fel y rhain, sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i gymaint o bobl.”
Dywedodd Julie Pierce, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, fod y mudiad yn gweld y gwahaniaeth mae cyngor amserol yn ei wneud i fywydau pobl bob dydd.
“Diolch i barhad cefnogaeth Cyngor Tref y Rhyl, rydym ni’n medru helpu trigolion i fynd i’r afael â chostau ynni, rheoli dyledion a chynyddu incwm y teulu ar adeg pan mae llawer o deuluoedd yn wynebu pwysau ariannol sylweddol. Mae’r cyllid hwn yn gwneud mwy na sicrhau enillion ariannol; mae’n helpu pobl i deimlo’n fwy cadarn, yn fwy hyderus ac yn medru ymdopi â’r heriau maen nhw’n eu hwynebu’n well,” meddai.
Dywedodd y Siop Cyngor ynghylch Budd-daliadau fod gwrandawiadau tribiwnlys ynghylch apeliadau budd-daliadau yn aml yn hir, gyda’r mudiad yn rhoi cefnogaeth i bobl am sawl blwyddyn weithiau.
Dywedodd Michelle Thomas, Rheolwr y Siop Cyngor ynghylch Budd-daliadau: “Rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, gwnaethom sicrhau enillion incwm drwy apeliadau gwerth £1,245,589.00 i bobl yn y Rhyl, sef eu hawl cyfreithlon, ac mae’r arian yn cael ei gylchdroi’n ôl i’r gymuned leol drwy gefnogi siopau a chyfleusterau hamdden lleol.”
Dywedodd Bethan Williams, Rheolwr Rhanbarth Gogledd Cymru a Phowys Home-Start Cymru, eu bod yn gweld y gwahaniaeth mae’r cymorth ariannol gan y Cyngor Tref yn ei wneud ledled y Rhyl.
“Mae teuluoedd yn wynebu amgylchiadau hynod o anodd gyda chostau ynni’n cynyddu a phwysau arianno. Mae ein gwaith ni’n rhoi cymorth i’r rhieni feithrin y sgiliau a’r gwydnwch sydd ei angen i wynebu’r heriau dyddiol, ac yn eu cysylltu â chymorth ehangach hanfodol bwysig. Mae bod yn rhan o’r bartneriaeth hon yn golygu y gallwn ni gyrraedd mwy o deuluoedd a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth ac yn cael eu grymuso, ac yn teimlo’n llai ar eu pennau eu hunain,” meddai.
