Beth sy’n Digwydd
Mae cystadleuaeth addurno ffenestr Cyngor Tref y Rhyl a Grŵp Busnes y Rhyl 2022 AR AGOR! Cefnogwyd yn garedig gan archfarchnad Morrisons Rhyl a Rhyl BID. Os yw eich ffenestri busnes yn disgleirio ac yn pefrio ar gyfer y Nadolig yna hoffem glywed gennych. Mae dau gategori – siopau annibynnol a siopau elusen – ac mae gwobrau ym mhob categori yn cynnwys potel o Siampên i’r buddugol, Prosecco i’r ail a Gwin am ddod yn drydydd, ynghyd â thystysgrifau wedi eu fframio. Medrwch enwebu eich busnes eich hun neu fusnes arall o’ch dewis chi. Trwy’r post: Cyngor Tref y Rhyl Facebook @RhylTownCouncil Anfonwch neges atom yn rhoi’r wybodaeth a amlinellir isod. *Rhaid cyflyno ceisiadau erbyn Dydd Llun Rhagfyr 12fed fan bellaf. |
Mae cystadleuaeth addurno ffenestr Cyngor Tref y Rhyl 2021 AR AGOR! Os yw eich ffenestri busnes yn disgleirio ac yn pefrio ar gyfer y Nadolig yna hoffem glywed gennych. |
Bydd Jason Manford yn sbarduno'r Nadolig yn Y Rhyl wrth oleuo’r goleuadau Nadoligaidd! Bydd y digrifwr Jason Manford yn sbarduno gŵyl y Nadolig trwy droi goleuadau Nadolig Y Rhyl ymlaen y mis hwn. |
Cerddoriaeth Motown yn dod i’r Rhyl ar gyfer y Nadolig Bydd cyngerdd Nadoligaidd blynyddol 2019 yn y Rhyl gyda theimlad motown eleni – gyda'r sioe Four TOPS yn perfformio wahanol glasuron Motown i gael pobl yn ysbryd y Nadolig. Bydd William Hicks o Atlanta Georgia, yr athrylith greadigol tu ôl i'r sioe yn cael pobl yn dawnsio gyda chaneuon y Four Tops, gan gynnwys Reach Out, Baby I Need Your Loving, I Can’t Help Myself ( Sugar Pie ), Standing In The Shadow, Bernadette, Walk Away Rene, Going Loco in Acapulco, ynghyd a digonedd o gerddoriaeth o’r cyfnod, yn cynnwys caneuon y Temptations, the Drifters, Smokey Robinson and the Miracles, the Stylistics, Ben E King an Stevie Wonder. Mae'r cyngerdd hefyd yn cynnwys lleisydd/gwesteiwr Mathew Roberts – yn perfformio amrywiaeth o gerddoriaeth gan gynnwys synau o'r cyfnod ‘swing’ a rhai caneuon cyfoes gan artistiaid fel Michael Bublé a Jamie Cullen Hefyd yn ymddangos fydd Côr Ysgol Emmanuel a band pres ieuenctid Sir Ddinbych. Bydd y cyngerdd blynyddol, a drefnir gan Gyngor Sir Ddinbych, mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Rhyl, yn cael ei lwyfannu yn Eglwys St Thomas, y Rhyl ddydd Sul, 8fed Rhagfyr o 5pm. Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: "Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau cymaint enwau mawr ar gyfer y sioe ac mae'r digwyddiad wedi'i hen sefydlu fel ffordd o roi hwb i ddathliadau'r Nadolig. "Byddem yn annog pobl i fynd i hwyl yr ŵyl a sicrhau eu tocyn am ddim i'r digwyddiad mawreddog hwn." Dywedodd Clerc Tref y Rhyl, Gareth Nickels: "Mae ' Pops Nadolig ' y Rhyl bob amser yn bleser i'r dorf a bydd cael y Four Tops o sioe Motown yn perfformio'n ffordd dda o arwain at dymor yr ŵyl. "Mae Cyngor Tref y Rhyl yn cefnogi tri digwyddiad ym mis Rhagfyr – Mae'r goleuadau'n troi’ mlaen, parti plant, a'r Pops Nadolig yn golygu bod rhywbeth i bawb. Rydym hefyd wrth ein boddau y bydd Ysgol Emmanuel Choir gyda ni ar gyfer y ' Pops Nadolig ', gan gefnogi talent lleol. " Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad am ddim a byddant ar gael o Ganolfan Groeso'r Rhyl ddydd Mercher 13 Tachwedd. I archebu eich tocynnau ffoniwch 01745 355068. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Mae cystadleuaeth addurno ffenestr Cyngor Tref y Rhyl a Grŵp Busnes y Rhyl AR AGOR! Os yw eich ffenestri busnes yn disgleirio ac yn pefrio ar gyfer y Nadolig yna hoffem glywed gennych. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Sadwrn Syrcas - Gŵyl Hwyl Am Ddim 13/07/19 - 11yb-4yp Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Neuadd y Dref, y Rhyl, Ffordd Wellington, y Rhyl LL18 1BA Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Dydd Sul 9fed Rhagfyr 5pm Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Dydd Sadwrn 1af Rhagfyr 2 tan 5pm Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Dydd Sadwrn 22 Medi - 11yb-4yh Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Cerddoriaeth am Ddim Sadwrn Gorffennaf 21 - 12-4yp - Stryd Fawr, Y Rhyl Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Cerddoriaeth am Ddim Sadwrn Gorffennaf 21 - 12-4yp - Stryd Fawr, Y Rhyl Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Hwyl yr haf am ddim yng Ngwyl gerddoriaeth Y Rhyl Bydd Heather Small – prif gantores M People – yn perfformio mewn gwyl am ddim yn Y Rhyl yr haf hwn. Heather Small oedd prif gantores M People, oedd yn enwog am nifer o ganeuon llwyddiannus yn y 90au cynnar yn cynnwys One Night in Heaven, Moving on Up a Serach for the Hero. Rhyddhaodd ei halbwm unigol cyntaf, Proud yn 2000, ac yn 2008 fe ymddangosodd ar raglen Strictly Come Dancing y BBC, gan orffen yn y 9fed safle. “Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu’r gymuned ddod at ei gilydd a dathlu, sy’n rhan o waith y Cyngor i gefnogi lles a chydlyniant cymunedol, yn ogystal â denu ymwelwyr i’n sir a chynyddu ffyniant economaidd. “Bydd hwn yn ddigwyddiad gwych i Sir Ddinbych ac anogaf i breswylwyr ac ymwelwyr ddod i fwynhau’r awyrgylch cyfeillgar i deuluoedd ar y diwrnod.” “Mae Cyngor Tref Y Rhyl yn falch o gefnogi’r strafagansa gerddoriaeth, ynghyd â’r sioe awyr a’n digwyddiadau cymunedol hefyd. Edrychwn ymlaen at haf yn llawn adloniant gwych.” Mae Doctor and the Medics, a berfformiodd yn yr Wyl y llynedd, yn enwog am ganu'r gân Spirit in the Sky gan Norman Greenbaum, cân aeth i Rif 1 yn y siartiau ym 1986, a chafodd Showaddywaddy nifer o ganeuon yn y Deg Uchaf yn y 1970au yn cynnwys Under the Moon of Love, Three Steps of Heaven ac You Got What It Takes. Dywedodd Clive Jackson, o Doctor & The Medics: “Mae gwyliau yn golygu lot i mi gan eu bod nhw'n dod a phobl a chymunedau ynghyd i ddathlu a mwynhau cerddoriaeth. Rydym ni’n edrych ymlaen i ddod yn ôl i’r Rhyl i berfformio. Byddwn ni’n chwarae set gyfan o ganeuon yr 80au y bydd pawb yn eu hadnabod, i gyd wedi cael triniaeth gan y Medics.” Mae perfformwyr eraill yn cynnwys cantores deyrnged Dusty Springfield, Maxine Mazumber a band soul a ffync Yubaba. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Wybodaeth Twristiaeth Rhyl ar 01745 355068 neu Swyddfa Docynnau’r Pafiliwn ar 01745 330000. |
Sadwrn Mai 5ed 11yb - 4yp Stryd Fawr, Y Rhyl Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth |
Dydd Llun Mai 28ain 11yb - 4yp Stryd Fawr, Y Rhyl Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth |
Digwyddiadau
Mae gan Gyngor Tref y Rhyl ei raglen o ddigwyddiadau cymunedol ei hun ac mae hefyd yn cefnogi eraill yn yr ardal.
Mae digwyddiadau i ddod yn y Rhyl yn cynnwys:
Digwyddiadau Cymunedol y Rhyl 2018 O gimychiaid anferth i brofiadau rhoi cynnig arni, dyma flas ar ein digwyddiadau ar gyfer 2018. Dydd Llun Ebrill 2 | 11am-3pm | Stryd Fawr y Rhyl Dydd Sadwrn Mai 5 | Calan Mai y Maer | 11am-4pm | Stryd Fawr y Rhyl Dydd Llun Mai 28 | Seafest | 11am-4pm | Stryd Fawr y Rhyl Dydd Sadwrn Gorffennaf 21 | Cerddoriaeth retro’r haf yn y Rhyl | Hanner dydd-4pm |Stryd Fawr y Rhyl | Sadwrn Medi 22 | Y Rhyl Wyllt |Glan Morfa, Marsh Road, y Rhyl gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych 11am-4pm Dydd Sadwrn Rhagfyr 8 | Dangos ffilmiau am ddim | Neuadd y Dref, y Rhyl | Ffilmiau ac amser i’w cadarnhau |
Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth |
Digwyddiadau Blaenorol
Eglwys Sant Thomas, Y Rhyl Dydd Sul 10fed Rhagfyr 2017 5pm Mynediad am ddim trwy docyn yn unig Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth |
Cynnau Goleuadau Nadolig y Rhyl Dydd Sadwrn, Rhagfyr 2 Bydd adloniant y prynhawn yn cychwyn ar y Stryd Fawr tua 2.30pm ac yn gorffen gydag ychydig o dân gwyllt am 5pm. Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth |
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 9 Neuadd y Dref, Ffordd Wellington, Y Rhyl Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth |
Dydd Sadwrn Medi 16 11yb - 4yp Pwll Y Brickfield Ffordd Derwen Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth |
MAE pobl yn cael eu hannog i droi at y gwyllt a chrwydro cefn gwlad. Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth
|
BYDD TREF yn troi’r cloc yn ôl i nodi ei lle mewn hanes cerddorol. Wrth i albwm eiconig y Beatles Sgt Pepper’s Lonely Hearts Club Band gyrraedd ei 50 oed, mae Stryd Fawr y Rhyl i’w gweddnewid yn Beatles Street. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Awst 13eg 2017 Arena Y Rhyl Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth
|
Dydd Llun Gŵyl y Banc Mai 29ain Arena Digwyddiadau, Y Rhyl: 11yb - 5yp Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth
|
Sêr y 70au a’r 80au yn dod i Arena'r Rhyl ar gyfer Gwyl Nostalgia 2017 Dewch i ddathlu cerddoriaeth y 70au a’r 80au yn yr Wyl Nostalgia a gynhelir yn Arena Ddigwyddiadau'r Rhyl ddydd Sul 13 Awst, 2017, o 12.00pm tan 6.00pm. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim a bydd yn atgoffa'r mynychwyr o'r amseroedd da a gawsant yn tyfu i fyny gyda rhai o fandiau mwyaf eiconig y ddegawd gan gynnwys The Christians, Dr and the Medics, Aswad, Odyssey a band teyrnged Ska Brittania Mae bandiau eraill yn aros i gael eu cyhoeddi hefyd. |
|||
Digwyddiadau Rhyl O’r reid arafaf ar y ddaear i glychau’r Nadolig, mae llawer o hwyl i’w gael yn y Rhyl yn ystod 2017. Chwilotwch a Mwynhewch. Mai Gorffennaf Sunday July 30. Rhyl RNLI Open Day - 10.30am to 4.30pm. Lifeboat station, Lower East Parade, Rhyl. (Saesneg yn unig) Awst Dydd Sadwrn 26ain a Dydd Sul 27ain Hydref Rhagfyr I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau
|
Noson Gwobrau Noson Gwobrau Maer y Rhyl. Dydd Gwener Mawrth 17 am 6y.h, Pavilion Theatre, Rhyl. Cliciwch yma i weld y poster
|
Cyngor Tref y Rhyl yn codi’r faner ar Ddydd Gŵyl Dewi. Bydd ymwelwyr â’r Rhyl yn cael croeso gwahanol yng ngorsafoedd bws a thrên y dref ar Fawrth 1. Bydd côr yn perfformio ar gyfer y teithwyr, a fydd hefyd yn derbyn baner Cymru. Bydd Côr Cymunedol Ghostbuskers yn ymuno â chyngor y dref. Mae’r côr yn cynnwys aelodau o’r Rhyl ac roedd yn llwyddiant mawr pan chwaraesant yn y dref dros y Nadolig. Byddant yn cyfarfod â’r teithwyr y tu allan i’r orsaf drenau rhwng 9am ac 11am ar ddydd Gŵyl Dewi. |
12 Days of Christmas (Seasneg yn unig) Cliciwch ar y lluniau am fwy o wybodaeth |
Cynnau Goleuadau Nadolig y Rhyl Mae Rhyl wedi dechrau cyfri’r dyddiau tan y Nadolig ar ôl cyhoeddi dyddiad cynnau’r goleuadau swyddogol a’r rhai a fydd yn perfformio yno. Yn ymuno â nhw bydd 'The Birds', act o adar enfawr sy’n cerdded o amgylch y lle, gyda'u cynffonau mawr yn diddanu ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd â'u effeithiau goleuni anhygoel - cliciwch yma i weld fideo Cliciwch yma am fwy wybodaeth |
Coelcerth ac Arddangosfa Tân Gwyllt
Cae Sioe, Ffordd Rhuddlan, #Rhyl
Nos Sadwrn Tachwedd 5 @ 7.30pm gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Rhyl Town Council Cyngor Tref Y Rhyl
Sioe Awyr y Rhyl
Dydd Sadwrn 27ain a Dydd Dul 28ain Awst 2016, Promenâd y Rhyl, 12pm - 5pm.
Mae’r digwyddiad gwefreiddiol hwn yn dychwelyd am flwyddyn arall gyda rhaglen lawn yn cynnwys y Saethau Cochion.
Noddwyd gan Gyngor Tref y Rhyl, mae mynediad i’r digwyddiad am ddim.
Seaside Soul
Dydd Sul 21ain Awst, hanner dydd hyd at 6pm.
Ymunwch â ni yn yr Arena Ddigwyddiadau i wrando ar gerddoriaeth tair oes euraid yn cynnwys y Midnight Soul Sisters, The Real Thing, Still Drifting gyda Ray Lewis, Jimmy James a’r Vagabonds a throellwyr disgiau gwadd.
Penwythnos Gwyllt y Rhyl
Medi 17
Crwydro cefn gwlad a thraethau’r Rhyl yn ystod ein diwrnod llawn hwyl.
Rhagfyr 1-24
Mae gennym syrpréis ar y gweill ar gyfer y Nadolig. Cadwch lygad ar y wefan hon a dilynwch ni ar Facebook a Twitter i gael gwybod mwy.
Pop y Nadolig – Dydd Sul 4ydd Rhagfyr
Lleoliad ac amserau i’w cadarnhau.
Dydd Gŵyl Dewi
Mawrth 1
Dathlwch ein diwrnod cenedlaethol gyda gweithgareddau o gwmpas y dref.
Os ydych yn trefnu digwyddiad ac eisiau dweud wrthym amdano, rhannwch gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol:
Ewch i’n tudalen Facebook | Dilynwch ni ar Twitter |
I gael cefnogaeth ac i wneud ymholiadau ynglŷn â digwyddiadau, ysgrifennwch at enquiries@rhyltowncouncil.org.uk