homess8

Y Maer

Maer y Rhyl 2024-2024

Y Cynghorydd Ms Cheryl Williams

"Mynediad cydradd i bawb"Mayor

Penodwyd y Cynghorydd Ms Cheryl Williams i swydd Maer y Rhyl yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Mai 2024 a bydd yn cael cefnogaeth ei chonsort, Mrs Ann Jones. Diolch yn fawr iawn hefyd i’r Tad Nnamah a fydd yn gweithredu fel ei Chaplan am y flwyddyn.

Mae’r Cynghorydd Williams yn Gynghorydd Tref sy’n cynrychioli ward Tŷ Newydd ac mae’n gwasanaethu fel Cynghorydd Sir Ddinbych hefyd.

Wrth dderbyn ei swydd fel y Maer, diolchodd y Cynghorydd Williams i’w chyd-gynghorwyr, a dywedodd ei fod yn anrhydedd o’r mwyaf a’i bod yn ddiolchgar i gael cyfle i gyflawni’r rôl.

Mae’r Cynghorydd Williams yn dymuno cynrychioli a hybu holl aelodau’r gymuned a dywedodd, “Rydw i am i bobl gael eu trin yn deg, yn gyfiawn a chyfartal a chael mynediad cydradd i adnoddau a fydd yn cynorthwyo i gefnogi’r rhai mwyaf dan anfantais. Rydw i’n angerddol ynghylch y celfyddyau ac rwy’n sylweddoli eu bod yn ddull creadigol pwerus sy’n cysylltu pobl ac yn hybu hunan barch. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio i wneud newid sylfaenol i gefnogi cymuned fwy unedig gyda mwy o gyfleoedd i lwyddo.”

Adlewyrchir y nodau hyn yn yr elusennau a ddewiswyd gan y Cynghorydd Williams am y flwyddyn, sef ‘Work in Progress’ sy’n grŵp celfyddydau perfformio a’r Ganolfan Ask sy’n cynnig gwasanaeth banc bwyd a grwpiau cymorth.