homess1

Pwy yw Pwy

Mae gennym 22 o Gynghorwyr Tref, wedi eu hethol gan bobl y Rhyl. Mae naw ward sy’n cael eu gwasanaethu gan naill ai ddau neu bedwar cynghorydd yn dibynnu ar faint a phoblogaeth pob un. Cynhelir etholiadau bob pedair blynedd.

Mae ffiniau’r dref yn ymestyn o'r bont las yn Harbwr Foryd yn y Gorllewin ac i’r de ar hyd afon Clwyd i Barc Manwerthu Clwyd. Yna awn i ganol y tir, ac eithrio’r Cae Sioe, i gynnwys yr holl dai ar stâd Maes Y Gog ar Ffordd Dyserth a thros y rheilffordd cyn belled â phen dwyreiniol cwrs golff y Rhyl.

Bob blwyddyn, caiff un Cynghorydd ei ethol gan y lleill i fod yn Faer Tref y Rhyl – pennaeth dinesig a phrif ddinesydd y dref. Ein Maer presennol yw’r Cynghorydd Ellie Chard.

Mae’r Cynghorwyr Tref yn wirfoddolwyr ac nid ydynt yn derbyn unrhyw dâl am eu gwaith. Maent yn gweithio dan God Ymarfer sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt weithredu’n anhunanol, yn wrthrychol, o fewn y gyfraith a rhoi sicrwydd eu bod yn defnyddio cronfeydd ac asedau cyhoeddus yn briodol.

Mae’r Cynghorwyr yn cyfarfod ddwywaith y mis i drafod busnes yn ei brif bwyllgorau. At hyn, mae rhai Cynghorwyr yn eistedd ar nifer o is-bwyllgorau llai sy’n cyfarfod ar sail ad hoc i weithio ar feysydd gwaith mwy penodol, manylach yn aml.