Treftadaeth

Tref glan y môr yn hanesyddol, mae’r Rhyl wastad wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, diolch i’w filltiroedd o draethau tywodlyd. Ond mae mwy i’n treftadaeth na’r môr.

Nid yw tarddiad enw’r dref yn hysbys, ond mae’n ymddangos mewn hen ddogfennau fel Hulle Ryhull (1301), Hyll, Hull, Rhill a Rhûl Rhul gyda Rhyll yn troi’n Rhyl ym 1840.

Tybir mai ystyr y gair Rhyl yw bryn neu fryncyn, ac adlewyrchir hyn ar arwyddlun y cyngor tref.

Yn ystod yr 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, roedd gan y Rhyl ddiwydiant gwneud brics ffyniannus gyda phedwar pwll clai ar gyrion y dref, gan gynnwys Gwaith Brics Cefndy. Mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau bric coch yn y Rhyl sy’n dyddio o’r cyfnod rhwng 1860 a 1940 wedi eu hadeiladu o frics lleol.

Mae’r Rhyl hefyd yn gartref i nifer o adeiladau rhestredig Gradd II, gan gynnwys Eglwys Plwyf Sant Tomos yn Bath Street, yr orsaf reilffordd, Ysbyty Brenhinol Alexandra, Eglwys y Bedyddwyr yn Sussex Street a Neuadd y Dref.

Mae’r dref wedi gweld llawer o newidiadau dros y blynyddoedd gyda mwy ar y ffordd.

Dyddiadau allweddol

1848
Agor gorsaf reilffordd y Rhyl

1867
Gogledd Cymru yn cael ei bier cyntaf, a adeiladwyd yn y Rhyl am £15,000

1901
Poblogaeth y Rhyl yn 8,473 – i fyny o 5,000 ym 1867

1904
Cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Rhyl

1911
Agor Rheilffordd Fach y Rhyl

1921
Rhyl United yn dod yn aelodau sylfaen o Gynghrair Genedlaethol Cymru

1948
Agor yr Ardd Goffa

1953
Clwb Pêl Droed y Rhyl yn ennill Cwpan Cymru am yr ail waith

1962
Agor gwasanaeth hofranlong y Rhyl i Wallasey – y cyntaf yn y byd

1971
Poblogaeth y Rhyl ychydig dros 21,000

1985
Yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd eto. Y tro diwethaf roedd yma oedd 1953

1991
Dadorchuddio Theatr y Pafiliwn

1993
Agor y Tŵr Awyr – 80 medr o uchder

2004
Clwb Pêl Droed y Rhyl yn Bencampwyr Uwchgynghrair Cymru

2016
Gwaith datblygu yn dechrau ar y ffrynt yn y Rhyl gyda chynlluniau manwerthu ac adloniant i ddod.

Dysgwch mwy am ein hanes:
Amgueddfa’r Rhyl
Stryd yr Eglwys
Y Rhyl
LL18 3AA
Ebost: heritage@denbighshire.gov.uk
Ffôn: 01745 353 814