homess6

Gwybodaeth am y Cyngor

Beth mae’r Cyngor Tref yn ei wneud?

imageMae Cyngor Tref y Rhyl yn cynrychioli barn trigolion, busnesau a mudiadau eraill yn y dref, ac rydym yn gwneud hyn yn rheolaidd trwy drafod materion yn ein cyfarfodydd.

Rydym yn ystyried materion sydd wedi eu cyfeirio atom gan Gynulliad Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, asiantaethau cyhoeddus eraill, mudiadau lleol ac aelodau’r cyhoedd. Weithiau mae'r rhain yn faterion y mae’n rhaid i ni fynegi barn arnynt dan y gyfraith, megis materion cynllunio. Weithiau ymgynghorir â ni oherwydd pwysigrwydd y mater i’r dref, er enghraifft strategaeth dwristiaeth i’r dyfodol, neu gynnig i newid rheolaeth traffig yn y Rhyl.

Rydym bob amser yn barod, hefyd, i chwilio am wybodaeth ar faterion rydym yn teimlo y dylid bod wedi ymgynghori â ni arnynt neu lle hoffem fynegi barn. Gwahoddir siaradwyr yn rheolaidd i gyfarfod gyda ni i drafod a rhoi gwybodaeth ar bynciau o ddiddordeb cyffredinol neu arwyddocâd lleol.

Mae tîm bychan o staff cyfeillgar yn rheoli ein materion cyfreithiol, ariannol a gweinyddol a gwneud unrhyw ymchwil sydd ei angen i sicrhau bod y Cyngor yn gwybod cymaint ag y bo modd am faterion y dref.

Serch hynny, mae cyfyngiad ar yr hyn y medrwn ei wneud dan y gyfraith ac nid yw pwerau helaeth Cyngor Sir Ddinbych gennym ni. Cyngor Sir Ddinbych yw’r prif awdurdod sy’n gyfrifol am gyflenwi’r rhan fwyaf o wasanaethau hanfodol beunyddiol y dref. Cyfeiriwch at Gyngor Sir Ddinbych i gael mwy o wybodaeth. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda chyrff sector cyhoeddus mawr eraill i gyflenwi gwasanaethau iechyd, gwarchod y cyhoedd, addysg bellach ac amgylcheddol yn yr ardal, ac mae wedi sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Lleol i hwyluso gyda hyn.