homess1

O Gwmpas

Eisiau darganfod y Rhyl? Darllenwch ‘mlaen.

Marine Lake
Mae’r llyn yn gronfa wneud 12 hectar a agorwyd yn swyddogol ym 1895. Mae’n gartref i Reilffordd Fach y Rhyl, rheilffordd gul sy’n teithio o amgylch y llyn. Mae amgueddfa reilffordd ar y safle.

Pentref Plant y Rhyl
Yn cynnig ffair a reidiau i’r plant ar lan y môr. Hefyd yn gartref i Sinema Vue: www.myvue.com

Theatr y Pafiliwn
Sioeau cerdd, cyngherddau, sioeau llwyfan – mae gan y theatr raglen gydol y flwyddyn gyda rhywbeth i bawb: www.rhylpavilion.co.uk

Seaquarium
Medrwch ddarganfod rywogaethau o bob cwr o’r byd yn yr acwariwm hwn ar lan y môr: www.seaquarium.co.uk

Siopa
Mae canolfan y White Rose yn gartref i amrywiaeth dda o siopau, gyda mwy i’w canfod ar y Stryd Fawr a strydoedd cyfagos: www.whiterosecentre.com

Chwaraeon a gweithgareddau
Tîm pêl droed y dref yw Rhyl F.C., a elwir hefyd yn Lilywhites. Mae gan y Rhyl ganolfan hamdden, trac beicio a llawer, llawer mwy.

Canolfan Hamdden y Rhyl
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am Ganolfan Hamdden y Rhyl.

Marsh Tracks
www.marshtracks.co.uk

Y Gerddi Botanegol
Mae gan y Parc Fictoraidd hwn gyrtiau tennis, griniau bowlio, grîn bytio a chaffi. Grange Road, y Rhyl.

Cae Chwarae Antur y Rhyl
Caeau Chwarae Rhydwen Close, Rhydwen Drive, y Rhyl: www.rapa.compufixgb.com

Harbwr y Rhyl a Chanolfan Beicio
Y lle perffaith i wylio’r cychod yn mynd allan a dod i mewn, cael tamaid i’w fwyta neu logi beic i fynd ar y promenâd – mae’r Rhyl yn rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol 5. Mae’r harbwr yn gartref i bont eiconig Pont y Ddraig.

Ein cyrraedd:
Mae’n hawdd cael hyd i ni. Mae gan y Rhyl orsaf drenau brysur ac fe’i gwasanaethir gan brif ffordd (ffyrdd arfordir yr A55 a’r A548), cysylltiadau trên a bws. Mae Arriva a Virgin Trains yn gweithredu i mewn ac allan o’r Rhyl, ac Arriva Buses hefyd.

Chwilio am rywle i aros?

Canolfan Groeso
Pentref Plant y Rhyl
Rhodfa’r Gorllewin
Y Rhyl
LL18 1HZ
Ffôn: 01745 355068/01745 344515
E: rhyl.tic@denbighshire.gov.uk

Mynd i’r traeth?
Amserau’r Llanw: www.thebeachguide.co.uk/north-wales/clwyd/rhyl-weather.htm
RNLI yn y Rhyl: rhyl-lifeboat.co.uk