homess1

Beth sy’n Digwydd

Mae cystadleuaeth addurno ffenestr Cyngor Tref y Rhyl a Grŵp Busnes y Rhyl 2022 AR AGOR!Mae cystadleuaeth addurno ffenestr Cyngor Tref y Rhyl a Grŵp Busnes y Rhyl 2022 AR AGOR!

Cefnogwyd yn garedig gan archfarchnad Morrisons Rhyl a Rhyl BID.

Os yw eich ffenestri busnes yn disgleirio ac yn pefrio ar gyfer y Nadolig yna hoffem glywed gennych.

Mae dau gategori – siopau annibynnol a siopau elusen – ac mae gwobrau ym mhob categori yn cynnwys potel o Siampên i’r buddugol, Prosecco i’r ail a Gwin am ddod yn drydydd, ynghyd â thystysgrifau wedi eu fframio.

Medrwch enwebu eich busnes eich hun neu fusnes arall o’ch dewis chi.
I wneud cais, dychwelwch y ffurflen hon:

Trwy’r post:

Cyngor Tref y Rhyl
Canolfan Gymunedol Wellington
Ffordd Wellington, y Rhyl LL18 1LE
Trwy ebost: enquiries@rhyltowncouncil.org.uk

Facebook @RhylTownCouncil Anfonwch neges atom yn rhoi’r wybodaeth a amlinellir isod.

*Rhaid cyflyno ceisiadau erbyn Dydd Llun Rhagfyr 12fed fan bellaf.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth cystadleuaeth addurno ffenestr Cyngor Tref y Rhyl a Grŵp Busnes y Rhyl 2022


(Saesneg yn unig..)

Cystadleuaeth addurno ffenestr Cyngor Tref y Rhyl 2020RHYL shoppers will have an extra spring in their step in the run-up to Christmas.

The balmy beaches of Australia will give way to the streets of the Denbighshire town as a pair of mischievous bouncing Christmas elves hop on to the High Street.

Aussies Horace and Boris will be keeping an eye on shoppers to see who has been naughty and nice, discovering who is guaranteed a place on Santa’s list this year.

The pair will be overseeing High Street fun on Saturday December 11 for the latest day of free activities staged by Rhyl Town Council. Santa’s unusual helpers can jump one metre off the ground so no one will escape their once-over.

Rhyl mayor Cllr Diane King said: “Christmas is a time of fun and games with a little sprinkling of silly. Horace and Boris bring all of that with them.

“The elves are off their shelf and on the move and guaranteed to raise a smile as they bounce and bop along.

“I’ll be joining them in town, so get ready - we’ll be wanting to hear who has been extra special this year so we can make sure Santa has got everyone on his list.”

Joining the duo will be the band Ghostbuskers from Tape Community Music & Film, who will bring their special style of musical revelry to the occasion. There will also be free face painting.

Bouncing into Christmas will be held on Saturday December 11 from 11am.


Cystadleuaeth addurno ffenestr Cyngor Tref y Rhyl 2020Mae cystadleuaeth addurno ffenestr Cyngor Tref y Rhyl 2021 AR AGOR!

Os yw eich ffenestri busnes yn disgleirio ac yn pefrio ar gyfer y Nadolig yna hoffem glywed gennych.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Cystadleuaeth addurno ffenestr Cyngor Tref y Rhyl 2020Bydd Jason Manford yn sbarduno'r Nadolig yn Y Rhyl wrth oleuo’r goleuadau Nadoligaidd!

Bydd y digrifwr Jason Manford yn sbarduno gŵyl y Nadolig trwy droi goleuadau Nadolig Y Rhyl ymlaen y mis hwn.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Cerddoriaeth Motown yn dod i’r Rhyl ar gyfer y NadoligCerddoriaeth Motown yn dod i’r Rhyl ar gyfer y Nadolig

Bydd cyngerdd Nadoligaidd blynyddol 2019 yn y Rhyl gyda theimlad motown eleni – gyda'r sioe Four TOPS yn perfformio wahanol glasuron Motown i gael pobl yn ysbryd y Nadolig.

Bydd William Hicks o Atlanta Georgia, yr athrylith greadigol tu ôl i'r sioe yn cael pobl yn dawnsio gyda chaneuon y Four Tops, gan gynnwys Reach Out, Baby I Need Your Loving, I Can’t Help Myself ( Sugar Pie ), Standing In The Shadow, Bernadette, Walk Away Rene, Going Loco in Acapulco, ynghyd a digonedd o gerddoriaeth o’r cyfnod, yn cynnwys caneuon y Temptations, the Drifters, Smokey Robinson and the Miracles, the Stylistics, Ben E King an Stevie Wonder.

Mae'r cyngerdd hefyd yn cynnwys lleisydd/gwesteiwr Mathew Roberts – yn perfformio amrywiaeth o gerddoriaeth gan gynnwys synau o'r cyfnod ‘swing’ a rhai caneuon cyfoes gan artistiaid fel Michael Bublé a Jamie Cullen Hefyd yn ymddangos fydd Côr Ysgol Emmanuel a band pres ieuenctid Sir Ddinbych.

Bydd y cyngerdd blynyddol, a drefnir gan Gyngor Sir Ddinbych, mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Rhyl, yn cael ei lwyfannu yn Eglwys St Thomas, y Rhyl ddydd Sul, 8fed Rhagfyr o 5pm.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: "Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau cymaint enwau mawr ar gyfer y sioe ac mae'r digwyddiad wedi'i hen sefydlu fel ffordd o roi hwb i ddathliadau'r Nadolig.

"Byddem yn annog pobl i fynd i hwyl yr ŵyl a sicrhau eu tocyn am ddim i'r digwyddiad mawreddog hwn."

Dywedodd Clerc Tref y Rhyl, Gareth Nickels: "Mae ' Pops Nadolig ' y Rhyl bob amser yn bleser i'r dorf a bydd cael y Four Tops o sioe Motown yn perfformio'n ffordd dda o arwain at dymor yr ŵyl.

"Mae Cyngor Tref y Rhyl yn cefnogi tri digwyddiad ym mis Rhagfyr – Mae'r goleuadau'n troi’ mlaen, parti plant, a'r Pops Nadolig yn golygu bod rhywbeth i bawb. Rydym hefyd wrth ein boddau y bydd Ysgol Emmanuel Choir gyda ni ar gyfer y ' Pops Nadolig ', gan gefnogi talent lleol. "

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad am ddim a byddant ar gael o Ganolfan Groeso'r Rhyl ddydd Mercher 13 Tachwedd. I archebu eich tocynnau ffoniwch 01745 355068.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Cystadleuaeth addurno ffenestr Cyngor Tref y Rhyl a Grŵp Busnes y Rhyl Mae cystadleuaeth addurno ffenestr Cyngor Tref y Rhyl a Grŵp Busnes y Rhyl AR AGOR!

Os yw eich ffenestri busnes yn disgleirio ac yn pefrio ar gyfer y Nadolig yna hoffem glywed gennych.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


poster gwyl hwylSadwrn Syrcas - Gŵyl Hwyl Am Ddim

13/07/19 - 11yb-4yp
Stryd Fawr, Y Rhyl

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Cystadleuaeth addurno ffenestr Cyngor Tref y Rhyl a Grŵp Busnes y Rhyl Noson Elusen Maer y Rhyl

Neuadd y Dref, y Rhyl, Ffordd Wellington, y Rhyl LL18 1BA
Sadwrn 27ain Ebrill 2019

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Christmas PopsPops Nadolig

Dydd Sul 9fed Rhagfyr 5pm

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Christmas Light Switch OnTroi Ymlaen Goleuadau Nadolig

Dydd Sadwrn 1af Rhagfyr 2 tan 5pm

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Wild RhylWild Rhyl

Dydd Sadwrn 22 Medi - 11yb-4yh

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Retro RhylRetro Rhyl

Cerddoriaeth am Ddim

Sadwrn Gorffennaf 21 - 12-4yp - Stryd Fawr, Y Rhyl

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Retro RhylRetro Rhyl

Cerddoriaeth am Ddim

Sadwrn Gorffennaf 21 - 12-4yp - Stryd Fawr, Y Rhyl

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Heather SmallHwyl yr haf am ddim yng Ngwyl gerddoriaeth Y Rhyl

Bydd Heather Small – prif gantores M People – yn perfformio mewn gwyl am ddim yn Y Rhyl yr haf hwn.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth Cyngor Tref Y Rhyl, yn trefnu’r digwyddiad, sydd hefyd yn cynnwys Showaddywaddy a Doctor and The Medics, yn Arena Digwyddiadau’r Rhyl ddydd Sul, 12 Awst o hanner dydd tan 6pm.

Heather Small oedd prif gantores M People, oedd yn enwog am nifer o ganeuon llwyddiannus yn y 90au cynnar yn cynnwys One Night in Heaven, Moving on Up a Serach for the Hero.

Rhyddhaodd ei halbwm unigol cyntaf, Proud yn 2000, ac yn 2008 fe ymddangosodd ar raglen Strictly Come Dancing y BBC, gan orffen yn y 9fed safle.
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth Sir Ddinbych: “Rwy’n falch iawn o groesawu gwesteion gwych i Wyl Arena Digwyddiadau’r Rhyl.

“Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu’r gymuned ddod at ei gilydd a dathlu, sy’n rhan o waith y Cyngor i gefnogi lles a chydlyniant cymunedol, yn ogystal â denu ymwelwyr i’n sir a chynyddu ffyniant economaidd.

“Bydd hwn yn ddigwyddiad gwych i Sir Ddinbych ac anogaf i breswylwyr ac ymwelwyr ddod i fwynhau’r awyrgylch cyfeillgar i deuluoedd ar y diwrnod.”
Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Maer Y Rhyl: “Bydd Y Rhyl unwaith eto, yn taro tant gyda’i digwyddiad gwyl yr haf. Mae’r ffaith y gallwn ddenu pobl fel Heather Small yn dystiolaeth o enw da cynyddol y dref wrth drefnu digwyddiadau gwych.

“Mae Cyngor Tref Y Rhyl yn falch o gefnogi’r strafagansa gerddoriaeth, ynghyd â’r sioe awyr a’n digwyddiadau cymunedol hefyd. Edrychwn ymlaen at haf yn llawn adloniant gwych.”

Mae Doctor and the Medics, a berfformiodd yn yr Wyl y llynedd, yn enwog am ganu'r gân Spirit in the Sky gan Norman Greenbaum, cân aeth i Rif 1 yn y siartiau ym 1986, a chafodd Showaddywaddy nifer o ganeuon yn y Deg Uchaf yn y 1970au yn cynnwys Under the Moon of Love, Three Steps of Heaven ac You Got What It Takes.

Dywedodd Clive Jackson, o Doctor & The Medics: “Mae gwyliau yn golygu lot i mi gan eu bod nhw'n dod a phobl a chymunedau ynghyd i ddathlu a mwynhau cerddoriaeth. Rydym ni’n edrych ymlaen i ddod yn ôl i’r Rhyl i berfformio. Byddwn ni’n chwarae set gyfan o ganeuon yr 80au y bydd pawb yn eu hadnabod, i gyd wedi cael triniaeth gan y Medics.”

Mae perfformwyr eraill yn cynnwys cantores deyrnged Dusty Springfield, Maxine Mazumber a band soul a ffync Yubaba.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Wybodaeth Twristiaeth Rhyl ar 01745 355068 neu Swyddfa Docynnau’r Pafiliwn ar 01745 330000.


poster calan maiCalan Mai y Maer

Sadwrn Mai 5ed

11yb - 4yp

Stryd Fawr, Y Rhyl

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth


poster seafestHwyl-Fôr

Dydd Llun Mai 28ain

11yb - 4yp

Stryd Fawr, Y Rhyl

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth


Digwyddiadau

Mae gan Gyngor Tref y Rhyl ei raglen o ddigwyddiadau cymunedol ei hun ac mae hefyd yn cefnogi eraill yn yr ardal.
Mae digwyddiadau i ddod yn y Rhyl yn cynnwys:

Digwyddiadau Cymunedol y Rhyl 2018

O gimychiaid anferth i brofiadau rhoi cynnig arni, dyma flas ar ein digwyddiadau ar gyfer 2018.

Dydd Llun Ebrill 2 | 11am-3pm | Stryd Fawr y Rhyl
Dewch i gyfarfod cwningod mawr y Pasg. Anrhegion i’w dosbarthu.

Dydd Sadwrn Mai 5 | Calan Mai y Maer | 11am-4pm | Stryd Fawr y Rhyl
Gemau traddodiadol, sinema solar, cerddwyr ystudfachau, sgiliau syrcas, Pwnsh a Jwdi, a mwy

Dydd Llun Mai 28 | Seafest | 11am-4pm | Stryd Fawr y Rhyl
Dathlu Blwyddyn y Môr Croeso Cymru:
Gwneud eich cerflun tywod eich hun gyda Sandinyoureye
Peintio wynebau gyda Miles of smiles by Bernie
Cyfarfod Larry, y cimwch anferth a mwy

Dydd Sadwrn Gorffennaf 21 | Cerddoriaeth retro’r haf yn y Rhyl | Hanner dydd-4pm |Stryd Fawr y Rhyl |

Sadwrn Medi 22 | Y Rhyl Wyllt |Glan Morfa, Marsh Road, y Rhyl gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych 11am-4pm

Dydd Sadwrn Rhagfyr 8 | Dangos ffilmiau am ddim | Neuadd y Dref, y Rhyl | Ffilmiau ac amser i’w cadarnhau


posterDigwyddiadau Rhyl 2018

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth

 

Digwyddiadau Blaenorol

posterPop Nadolig 2017

Eglwys Sant Thomas, Y Rhyl

Dydd Sul 10fed Rhagfyr 2017 5pm

Mynediad am ddim trwy docyn yn unig

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth


imageCynnau Goleuadau Nadolig y Rhyl

Dydd Sadwrn, Rhagfyr 2

Bydd adloniant y prynhawn yn cychwyn ar y Stryd Fawr tua 2.30pm ac yn gorffen gydag ychydig o dân gwyllt am 5pm.

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth


imageBreuddwyd Nadolig Rhyl

Dydd Sadwrn, Rhagfyr 9

Neuadd y Dref, Ffordd Wellington, Y Rhyl

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth


imageGwyllt Y Rhyl

Dydd Sadwrn Medi 16

11yb - 4yp

Pwll Y Brickfield

Ffordd Derwen

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth


imageRhyl Wyllt

MAE pobl yn cael eu hannog i droi at y gwyllt a chrwydro cefn gwlad.
Mae Cyngor Tref y Rhyl a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn ymuno i redeg Y Rhyl Wyllt, a fydd yn canolbwyntio ar un o fannau gwyrdd y dref.
Mae’r digwyddiad undydd, am ddim, yn dilyn llwyddiant Penwythnos Gwyllt y llynedd a bydd yn cynnwys gweithgareddau megis crefftau cefn gwlad, pysgota, reidio beics a theithiau tywys.
I’w gynnal ar Fedi 16 ym Mhwll Brickfield y Rhyl, bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i bobl weld ochr wahanol i’r dref.

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth



BYDD TREF yn troi’r cloc yn ôl i nodi ei lle mewn hanes cerddorol.

Wrth i albwm eiconig y Beatles Sgt Pepper’s Lonely Hearts Club Band gyrraedd ei 50 oed, mae Stryd Fawr y Rhyl i’w gweddnewid yn Beatles Street.
Ar ddydd Sadwrn 14 Gorffennaf 1962, chwaraeodd y Beatles yng Nghymru am y tro cyntaf, gan hebrwng Beatlemania i’r wlad. Cafwyd y gig gynta yng Nghymru yn y Regent Dansette Ballroom yn y Rhyl, bellach yn gartref i Burton a Dorothy Perkins – ac fe barodd am awr gyda thwristiaid a phobl lleol yn cael eu diddanu am bum swllt yn unig.
Mae plac glas yn dangos yr adeilad lle bu’r Beatles yn perfformio a nawr mae’r band teyrnged lleol, The Cavernites, yn cymryd y llwyfan yn stryd fawr y dref ar ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf i gofio am y diwrnod hanesyddol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

flyers flyers

imageGwyl Gerdd 70au ac 80au

Awst 13eg 2017

Arena Y Rhyl

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth



imageHwyl-Fôr Rhyl

Dydd Llun Gŵyl y Banc Mai 29ain

Arena Digwyddiadau, Y Rhyl: 11yb - 5yp

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth



imageSêr y 70au a’r 80au yn dod i Arena'r Rhyl ar gyfer Gwyl Nostalgia 2017

Dewch i ddathlu cerddoriaeth y 70au a’r 80au yn yr Wyl Nostalgia a gynhelir yn Arena Ddigwyddiadau'r Rhyl ddydd Sul 13 Awst, 2017, o 12.00pm tan 6.00pm.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim a bydd yn atgoffa'r mynychwyr o'r amseroedd da a gawsant yn tyfu i fyny gyda rhai o fandiau mwyaf eiconig y ddegawd gan gynnwys The Christians, Dr and the Medics, Aswad, Odyssey a band teyrnged Ska Brittania Mae bandiau eraill yn aros i gael eu cyhoeddi hefyd.


image Digwyddiadau Rhyl

O’r reid arafaf ar y ddaear i glychau’r Nadolig, mae llawer o hwyl i’w gael yn y Rhyl yn ystod 2017. Chwilotwch a Mwynhewch.

Mai
Dydd Llun 29ain
Seafest
Stryd Fawr, y Rhyl: 10am-5pm
10am – hanner dydd Cerddoriaeth gyda’r Ghostbuskers
Hanner dydd - 5pm Gorymdaith Adar Mawr yr Haul
Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl: 11am-5pm
NEWYDD: Taith ar reid arafaf y byd – y Bad Achub
Cyfle i gyfarfod criw Bad Achub y Rhyl a chael gweld y cychod a gweithgareddau gwych eraill

Gorffennaf
Dydd Sadwrn 15fed Hanner dydd-4pm
Stryd Fawr, y Rhyl
Beatles Street
Cerddoriaeth fyw a mwy
Dathlu’r diwrnod pan chwaraeodd y Beatles yn y Rhyl, gyda band teyrnged The Cavernites a mwy

imageSunday July 30. Rhyl RNLI Open Day - 10.30am to 4.30pm. Lifeboat station, Lower East Parade, Rhyl. (Saesneg yn unig)

Awst
Dydd Sul 13eg Tua 1:15pm - 4:15pm
Ras Rafftiau’r Harbwr Bad Achub y Rhyl

Dydd Sadwrn 26ain a Dydd Sul 27ain
Sioe Awyr y Rhyl

Hydref
Nos Calan – manylion i ddod yn fuan!

Rhagfyr
Dydd Sadwrn 9fed
Ffilmiau am ddim yn Neuadd y Dref, y Rhyl

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau
Facebook: RhylTownCouncil
Twitter: @RhylTownCouncil



imageNoson Gwobrau

Noson Gwobrau Maer y Rhyl. Dydd Gwener Mawrth 17 am 6y.h, Pavilion Theatre, Rhyl.

Cliciwch yma i weld y poster



image Cyngor Tref y Rhyl yn codi’r faner ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Bydd ymwelwyr â’r Rhyl yn cael croeso gwahanol yng ngorsafoedd bws a thrên y dref ar Fawrth 1.

Bydd côr yn perfformio ar gyfer y teithwyr, a fydd hefyd yn derbyn baner Cymru.

Bydd Côr Cymunedol Ghostbuskers yn ymuno â chyngor y dref. Mae’r côr yn cynnwys aelodau o’r Rhyl ac roedd yn llwyddiant mawr pan chwaraesant yn y dref dros y Nadolig.

Byddant yn cyfarfod â’r teithwyr y tu allan i’r orsaf drenau rhwng 9am ac 11am ar ddydd Gŵyl Dewi.

 

12 Days of Christmas (Seasneg yn unig)

Cliciwch ar y lluniau am fwy o wybodaeth

flyers flyers

Cynnau Goleuadau Nadolig y Rhyl

Mae Rhyl wedi dechrau cyfri’r dyddiau tan y Nadolig ar ôl cyhoeddi dyddiad cynnau’r goleuadau swyddogol a’r rhai a fydd yn perfformio yno.

Yn ymuno â nhw bydd 'The Birds', act o adar enfawr sy’n cerdded o amgylch y lle, gyda'u cynffonau mawr yn diddanu ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd â'u effeithiau goleuni anhygoel - cliciwch yma i weld fideo

Cliciwch yma am fwy wybodaeth


Coelcerth ac Arddangosfa Tân Gwyllt

Cae Sioe, Ffordd Rhuddlan, #Rhyl

Nos Sadwrn Tachwedd 5 @ 7.30pm gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Rhyl Town Council Cyngor Tref Y Rhyl


Sioe Awyr y Rhyl

Dydd Sadwrn 27ain a Dydd Dul 28ain Awst 2016, Promenâd y Rhyl, 12pm - 5pm.

Mae’r digwyddiad gwefreiddiol hwn yn dychwelyd am flwyddyn arall gyda rhaglen lawn yn cynnwys y Saethau Cochion.

Noddwyd gan Gyngor Tref y Rhyl, mae mynediad i’r digwyddiad am ddim.


Seaside Soul

Dydd Sul 21ain Awst, hanner dydd hyd at 6pm.

Ymunwch â ni yn yr Arena Ddigwyddiadau i wrando ar gerddoriaeth tair oes euraid yn cynnwys y Midnight Soul Sisters, The Real Thing, Still Drifting gyda Ray Lewis, Jimmy James a’r Vagabonds a throellwyr disgiau gwadd.


Penwythnos Gwyllt y Rhyl

Medi 17
Crwydro cefn gwlad a thraethau’r Rhyl yn ystod ein diwrnod llawn hwyl.


Rhagfyr 1-24

Mae gennym syrpréis ar y gweill ar gyfer y Nadolig. Cadwch lygad ar y wefan hon a dilynwch ni ar Facebook a Twitter i gael gwybod mwy.

Pop y Nadolig – Dydd Sul 4ydd Rhagfyr

Lleoliad ac amserau i’w cadarnhau.


Dydd Gŵyl Dewi

Mawrth 1

Dathlwch ein diwrnod cenedlaethol gyda gweithgareddau o gwmpas y dref.

 

Os ydych yn trefnu digwyddiad ac eisiau dweud wrthym amdano, rhannwch gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol:

facebook Ewch i’n tudalen Facebook Twitter Dilynwch ni ar Twitter

I gael cefnogaeth ac i wneud ymholiadau ynglŷn â digwyddiadau, ysgrifennwch at enquiries@rhyltowncouncil.org.uk