homess9

Meiri yn y Gorffennol

Maer Rhyl 2022-2023, y Cynghorydd Diane King

Mayor Cynghorydd y Rhyl i wasanaethu ail dymor hanesyddol fel maer.

Etholwyd Cynghorydd Cyngor Tref y Rhyl Diane King fel maer am y tro cyntaf yn 2021. Fodd bynnag, yn ystod ei thymor yn y swydd, cafodd llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau eu cwtoti neu eu canslo oherwydd y pandemig a'r adferiad araf o ganlyniad.

Felly, etholodd ei chyd-gynghorwyr y Cynghorydd King fel maer am yr eildro, gan ei galluogi i gyflawni blwyddyn lawn o weithgareddau gan gynnwys codi arian ar gyfer ei helusennau dethol, Cymdeithas Alzheimer, RNLI, a Chanolfan Merched Gogledd Cymru, y Rhyl.

Pleidleiswyd y Cynghorydd King yn ôl ar y Cyngor Tref yn yr etholiadau diweddar ac fe’i hetholwyd hefyd fel Cynghorydd Cyngor Sir Ddinbych am y tro cyntaf.

Gan gynrychioli ward Cefndy y dref, dywedodd y Cynghorydd: “Mae’n fraint cael fy ethol fel maer am yr eildro. Roedd y flwyddyn gyntaf yn un braf iawn ond, wrth gwrs, cafodd llawer o weithgareddau eu gohirio. Wrth i bethau ddod yn fwy normal, mae llawer rwyf eisiau ei gyflawni, gan gynnwys codi arian ar gyfer yr elusennau hynny sy’n agos at fy nghalon. Rwyf eisiau diolch i’r pleidleiswyr a fy nghydweithwyr am roi eu ffydd ynof i am dymor newydd.”

Nid dyma'r tro cyntaf i’r Rhyl gael yr un maer am ddwy flynedd ar ôl ei gilydd. Gwasanaethodd rhagflaenydd y Cynghorydd King, y Cynghorydd Ellie Chard ddau dymor yn ystod y pandemig Covid, gan olygu bod y ddau gynghorydd wedi torri’r record fel yr unig ddau faer yn hanes y Cyngor Tref i wasanaethu ddwywaith yn olynol.

Cyn ddarlithydd gyda Choleg Llandrillo, dywedodd y Cynghorydd King, a anwyd ac a fagwyd yn y Rhyl, bod cyfnod disgleiriach ar y gorwel.

“Bydd llyfrau hanes y Cyngor Tref un diwrnod yn nodi mai’r Cynghorydd Chardd a minnau oedd yr unig feiri i wasanaethu ddwywaith, un ar ôl y llall. Mae’n anrhydedd! Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn, ond, fel bob amser, mae’r Rhyl wedi ymateb ac wedi goroesi.

“Mae llawer i edrych ymlaen ato, gyda datblygiadau newydd, newidiadau ledled y dref a digon o ddigwyddiadau a hwyl i’w gael. Mae blagur adferiad i’w gweld ymhobman. Rwyf yn edrych ymlaen at ddechrau'r flwyddyn hon fel maer o’r newydd, ac ni allaf aros i wasanaethu pobl y Rhyl unwaith eto, “ ychwanegodd.

Cymar y Cynghorydd King unwaith eto fydd y Cynghorydd Pete Prendergast, yntau wedi ei ail-ethol yn ddiweddar i’r Cyngor Tref a’r Cyngor Sir.

Y dirprwy faer am yr eildro fydd y cynghorydd Ward Bodfor Jacquie McAlpine a’i chymar hithau unwaith eto fydd y Cynghorydd Charlotte Taylor Smith.


Maer y Rhyl 2017-2018, y Cynghorydd Alan James

CYNGHORYDD TREF a feiciodd i Baris i godi arian i elusen fydd maer nesaf y Rhyl - cliciwch yma


Maer y Rhyl 2016-2017
Rhoi llais i bobl y Rhyl a’r grym i wneud newidiadau oedd amcan Maer y Rhyl ar gyfer 2016-2017.
Daeth y Cynghorydd Sarah Roberts yn faer ar ôl y Cynghorydd Barry Mellor.
Gyda’r nod o wella cydlyniant cymdeithasol yn y dref, ymunwyd â’r Cynghorydd Roberts, athrawes, gan ei mam Glenda fel cydweddog.


Maer y Rhyl ar gyfer 2015-2016 oedd y Cynghorydd Barry Mellor a’i wraig Toni oedd y Faeres.

Defnyddiodd y Cynghorydd Mellor ei flwyddyn yn y swydd i hyrwyddo’r holl brosiectau adfywio a gynlluniwyd ar gyfer y Rhyl, yn benodol Ysgol Uwchradd newydd y Rhyl a datblygiad Premier Inn.

Gweithiodd â Neptune Developments ar eu cynigion nhw ar gyfer y promenâd. Y Dirprwy Faer oedd y Cynghorydd Sarah Roberts, a’i Chydweddai oedd Mrs Glenda Roberts.

Y Tad Charles Ramsay oedd Caplan y Cynghorydd Mellor.