Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Y Cyngor Tref yn symud i ganol y dref
Y Cyngor Tref yn symud i ganol y dref
Y newid cyntaf i’r Cyngor ydy symud o’i safle yn Ffordd Wellington i Neuadd y Dref. Mae’r newid yn dod yng nghyfnod Clerc y Dref newydd, Helen Mead, yn dilyn ymddeoliad Gareth Nickels. Bydd y Cyngor yn defnyddio cynnal cyfarfodydd y Cyngor yno, a dyna lle bydd swyddfeydd y swyddogion. Mae’r symud yn dynodi pennod newydd i’r tîm, sy’n cynnwys y Clerc newydd, Helen.
Mae Helen wedi bod gyda’r Cyngor ers sawl blwyddyn, fel Dirprwy Glerc yn flaenorol, ac yn ymuno efo hi yn Neuadd y Dref mae’r Dirprwy Glerc, Tracey Jones, y Swyddog Cyllid, Andrew Williams, a’r Swyddog Cyfathrebu, Rachael Wheatley. Dywedodd Helen fod pethau newydd ar y gweill, a bod y Cyngor yn edrych tua’r dyfodol.
“Mae symud i Neuadd y Dref yn gwneud synnwyr ar sawl lefel, ac yn rhoi’r Cyngor yng nghanol y Rhyl. Mae pethau’n newid ledled y dref, a gweledigaeth y Cyngor yn yr un modd. “Mae’r Cyngor wrthi’n nodi ei flaenoriaethau a’r meysydd y bydd yn canolbwyntio arnyn nhw yn ystod y blynyddoedd nesaf. Rydym yn cytuno y dylen nhw ymwneud â chefnogi’r gymuned, ein trigolion a busnesau a’r farn oedd bod symud yn agosach at ganol y dref yn bwysig i’n helpu i gyflawni hyn.”
Mae’r Cyngor eisoes yn rhoi cymorth i wasanaethau yn y Rhyl a fu o dan fygythiad oherwydd cyfyngiadau ar gyllideb Cyngor Sir Ddinbych, yn cynnwys rhoi cyllid i gadw’r toiledau cyhoeddus yn y dref ar agor.
“Dydyn ni ddim yn hunanfodlon,” meddai Helen, “ac mae llawer i’w wneud, gyda blaenoriaethau’n cystadlu yn erbyn ei gilydd drwy’r dref. Rydym ni’n wynebu’r un anawsterau â llawer o drefi stryd fawr a chyrchfannau glan y môr eraill, yn ogystal â rhai sy’n unigryw i’r Rhyl.
“Mae pwerau’r Cyngor Tref yn gyfyngedig o’u cymharu â rhai’r Cyngor Sir, ond yr hyn sydd gan y Rhyl ydy cymuned gref – byddin o bobl sy’n gwneud gwyrthiau. Felly, rydym ni wedi bod yn ystyried beth fedrwn ni ei wneud i gynorthwyo i gefnogi’r gwaith hwnnw, ble y gallwn ni dynnu’r pwysau oddi ar wasanaethau sydd wedi’u gwasgu i’r eithaf, gwneud iawn am unrhyw ddiffyg yn y cyllido neu ddefnyddio ein llais i bwyso am newid.”
Bydd y Cyngor yn rhyddhau rhagor o fanylion yn ystod yr wythnosau nesaf, yn cynnwys cynlluniau ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd i roi cyfle i’r gymuned fynegi eu barn ar flaenoriaethau’r dref.
Ychwanegodd Helen: “Mae’r Cyngor wrthi’n llunio fersiwn derfynol ei strategaeth ar gyfer y dyfodol, sy’n canolbwyntio ar feysydd allweddol, a bydd yn datgelu mwy yn fuan. Yn ddiamheuaeth, yr hyn sydd wrth graidd y cyfan, ydy pobl a busnesau’r Rhyl. Mae’n bwysig bod y lleisiau hynny’n cael eu hadlewyrchu yn ein proses gwneud penderfyniadau wrth fwrw ymlaen.”
